Wrth i’r byd baratoi i ddathlu’r Flwyddyn Newydd, mae criw yn y Fenni yn edrych ymlaen at gyfres o ddigwyddiadau i ddathlu’r Hen Galan ymhen pythefnos.
Am 3.30yp ar Ionawr 13, bydd digwyddiad gyda’r Fari Lwyd yn cael ei thywys o amgylch y dref cyn swper yn Neuadd Eglwys y Drindod Sanctaidd am 7 o’r gloch.
Bydd y Fari Lwyd yn cael ei thywys gan Frank Olding a Jeremy Randles, ar y cyd â Merched y Wawr y Fenni, a Chymreigyddion y Fenni.
Mae’r trefnwyr yn pwysleisio bod rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y swper, sy’n costio £12 y pen, a’r holl elw’n mynd at Fanc Bwyd y Fenni.
Bydd plygain i ddilyn y diwrnod canlynol (Ionawr 14) am 6 o’r gloch yn Eglwys y Drindod Sanctaidd.
Bydd lluniaeth ysgafn ar ôl y gwasanaeth yn Neuadd yr Eglwys, ac mae’r trefnwyr yn annog pobol i ddod â phlatiad o fwyd gyda nhw i’w rannu.