Er mwyn cefnogi busnesau lleol dros yr ŵyl, mae Cyngor Gwynedd yn cynnig llefydd parcio am ddim yn eu meysydd parcio.
Mae’r cam, sydd wedi bod yn digwydd ers sawl Nadolig, yn hwb i fusnesau bach, medd perchennog un siop yng Nghaernarfon.
Yn aml, mae cwsmeriaid yn cwyno am gostau parcio, meddai Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print.
Bydd meysydd parcio’r Cyngor am ddim o 11yb bob diwrnod tan Ragfyr 26.
“Mae hyn yn rhywbeth sy’n digwydd bob blwyddyn ac rydym yn falch iawn o’i gael o,” meddai Eirian James wrth golwg360.
“Mae cwsmeriaid yn aml iawn yn cwyno ynglŷn â chostau parcio yn ganol y dref yn arbennig, yn enwedig pobol sydd angen gallu parcio yng nghanol y dref – efallai pobol hŷn neu bobol sydd â phram neu bobol sy’n cael trafferth cerdded.”
‘Costau parcio is yn arwain at fwy o siopwyr’
Er bod dadl dros ostwng costau parcio yn y dref, neu gynnig parcio am ddim gydol y flwyddyn, mae Eirian James yn gwerthfawrogi’r ddadl amgylcheddol o’u plaid hefyd.
“Mae dau beth o ran ei wneud yn barhaol,” meddai.
“Ar un llaw, dw i’n meddwl bod ni gyd angen defnyddio ein ceir llai ac felly bod codi am barcio yn annog pobol i beidio defnyddio eu ceir gymaint.
“I hwnna weithio mae rhaid i ti gael system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol.
“Ar hyn o bryd mae faint o fysus mae hwnna’n lleihau.
“Mewn theori dw i’n meddwl bod yna resymeg tu ôl i godi am barcio ond yn ymarferol be dw i’n ffeindio ydy, lle mae costau parcio yn is, mae yna fwy o bobol yn siopa.
“Rydym angen annog pobol i ddefnyddio eu ceir llai, ond dydw i ddim yn meddwl mai rhoi prisiau parcio fyny yw’r ateb.”
Hybu’r economi
Mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Arfon, yn annog trigolion i wneud defnydd o’r cynnig i hybu’r economi leol a gwario eu harian mewn siopau annibynnol y gaeaf hwn.
“Dwi’n falch iawn o weld Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr adeg yma o’r flwyddyn i fusnesau lleol,” meddai Sian Gwenllian.
“Fel cyn-Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, rydw i’n ymwybodol iawn o fanteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol prynu’n lleol.
“Mae’r cynnydd dramatig mewn siopa ar-lein yn golygu bod strydoedd mawr yn llawn cadwyni masnachol, byd eang yn perthyn i’r gorffennol.
“Ond does dim rhaid i hynny fod yn newyddion drwg.
“Mae busnesau annibynnol yn rhoi dôs go dda o bersonoliaeth ac unigolyddiaeth i stryd fawr.
“Maen nhw’n medru adlewyrchu cymeriad ardal.
“Heb sôn am y budd economaidd. Drwy wario mewn busnesau annibynnol yn ein cymunedau, mae’r arian hwnnw’n mynd yn ôl i’r economi leol. Mae fel caseg eira.
“Mae perchnogion busnesau lleol yn ail-fuddsoddi elw yn y gadwyn gyflenwi leol.
“Maen nhw’n cyflogi pobol leol, ac yn fwy tebygol o dalu cyflog cyfartalog uwch na chadwyni masnachol. Maen nhw’n noddi sefydliadau ac elusennau lleol hefyd.
“A gobeithio y bydd parcio am ddim gan y Cyngor yn anogaeth bellach i siopa’n lleol.”