Mae angen “newid agwedd sylfaenol” tuag at dyfu addysg Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Daw hyn wrth i’r mudiad fynegi pryderon am ddiffyg datblygiadau diweddar mewn addysg Gymraeg cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas, “mae’n glir o ddarllen adroddiad blynyddol Jeremy Miles ar Cymraeg 2050 nad ydyn ni wedi gweld y cynnydd sydd ei angen er mwyn creu twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac nad oes cynllun clir ar gyfer hynny”.
“Er bod cynnydd yn nifer yr athrawon oedd yn dysgu trwy’r Gymraeg mewn blynyddoedd diweddar, adfer ar ôl gostyngiad mae nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu dysgu trwy’r Gymraeg, a dim ond cynnydd o rhyw 200 yn nifer yr athrawon sydd ers 2015/16,” meddai.
“Dydy’r lefelau presennol ddim yn agos i’r raddfa fydd eu hangen er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth ei hun.
“Ateb y Llywodraeth yw cynnig cyfaswm o £800,000 o grant i’w rannu rhwng ysgolion Cymru ar gyfer cynlluniau hyfforddiant athrawon, gostwng lefel y graddau sydd eu hangen i ddysgu, ariannu ugain lle i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd, a chamau bachain tebyg.
“Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol, fe wnaeth Jeremy Miles ddweud sawl gwaith mai ei ddymuniad e yw bod pob un yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg yn hyderus.
“Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o wneud hynny, felly mae angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod digon o athrawon sy’n gallu dysgu trwy’r Gymraeg.”
Galw am fuddsoddiad o £10m
Mae’r Gymdeithas wedi galw am fuddsoddiad o £10m y flwynydd am bum mlynedd er mwyn ariannu cynlluniau hyfforddiant i’r gweithlu addysg, ac ychwanegu blwyddyn at hyfforddiant athrawon ar gyfer dysgu’r Gymraeg.
Mae pryder gan y Gymdeithas hefyd am y gwymp yng nghanran plant ysgol Blwyddyn 1 sydd yn derbyn addysg Gymraeg.
Disgynodd o 23.9% yn 2021/22 i 23.4% yn 2022/23.
Er bod y gwymp yn gymharol fach, dywed y Gymdeithas y dylai unrhyw gwymp wneud i’r Llywodraeth sylweddoli bod angen newid sylfaenol i’r system addysg.
“Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o fynd ar ôl amwysder rhwng nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad ac Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth,” meddai Toni Schiavone wedyn.
“Dylen nhw gymryd mwy o sylw o’r cwymp yn nifer y plant Blwyddyn 1 sy’n dilyn addysg Gymraeg a rhoi cynlluniau cadarn ar waith i dyfu addysg Gymraeg a sylweddoli bod angen newid agwedd sylfaenol er mwyn diwygio’r system addysg a rhoi addysg Gymraeg i bob plentyn.
“Mae cyfle yn y Ddeddf Addysg fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar flwyddyn nesaf.
“Mae papur gwyn y Ddeddf yn gosod nod bod 50% o blant yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050 – dydy amddifadu 50% o’n plant o’r Gymraeg ddim yn llawer o uchelgais.
“Beth am osod nod bod cant y cant o’n plant yn derbyn addysg Gymraeg?”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.