Mae uwch gynghorwyr yng Ngheredigion wedi cefnogi cynnydd ym mhremiwm treth gyngor ail gartrefi’r sir i 100%, gyda chynnydd pellach i 150% i ddilyn.

Mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag ar hyn o bryd, tra bod gan Sir Benfro bremiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi ar hyn o bryd.

Mae rheolau treth newydd Llywodraeth Cymru’n rhoi’r hawl i awdurdodau lleol gasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.

Cynhaliodd Ceredigion a Sir Benfro gyfagos ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar newidiadau posib i bremiymau ail gartrefi ac eiddo gwag, gydag uwch gynghorwyr Sir Benfro’n cefnogi premiwm o 200% yn achos ail gartrefi.

Cefnogaeth unfrydol

Yn eu cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 5), fe wnaeth aelodau o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi’n unfrydol yr argymhelliad i gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi mewn dau gam: i 100% o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf, ac i 150% o Ebrill 1, 2025.

Fe wnaeth aelodau hefyd gefnogi’n unfrydol y cynnydd yn y premiwm ar eiddo gwag, o’r 25% presennol i 100% ar gyfer eiddo fu’n wag ers hyd at bum mlynedd, i 150% ar gyfer pump i ddeng mlynedd, ac i 200% dros ddeng mlynedd.

Mae cefnogaeth y Cabinet ar ffurf argymhelliad i gyfarfod llawn y Cyngor ar Ragfyr 14, pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud, gyda’r un meini prawf hefyd yn berthnasol yn Sir Benfro.

Yn ystod y cyfarfod ar Ragfyr 5, dywedodd y Cynghorydd Alun Williams iddo dderbyn llythyrau twymgalon gan berchnogion ail gartrefi, y rhan fwyaf ohonyn nhw o ardaloedd eraill yng Nghymru, yn disgrifio’u cyfraniadau i’r economi leol, ond fe bwysleisiodd e gyfraniad pobol leol hefyd, gan ofyn, “Sut ei bod hi’n iawn fod gan rai pobol ddau gartrefi pan fo pobol leol yn ei chael hi’n anodd?”

Dywedodd fod problem ail gartrefi’n broblem fwy na Chymru’n unig, a bod nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr mewn ardaloedd twristaidd yn edrych ar bremiwm o 100%.

“Byddai unrhyw awdurdod sy’n codi llai yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa fregus wrth ddod yn fagnet ar gyfer ail gartrefi,” meddai.

Ceinewydd

Fe wnaeth y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod o’r Cabinet a chynghorydd Ceinewydd – sydd â’r ail gyfradd uchaf o ail gartrefi yn y sir – groesawu’r cynnydd arfaethedig yn y premiwm ar gyfer eiddo gwag, gan gyfeirio at enghreifftiau yn ei bentref ei hun o eiddo fu’n wag ers degawdau.

Ar fater ail gartrefi, dywedodd fod cyfraddau premiwm uwch awdurdodau cyfagos yn un o’r ffactorau yn ei benderfyniad i gefnogi’r cynnydd, gan ychwanegu, “Fel arall, rydym yn dod yn bot mêl ar gyfer mwy o gynnydd yn hyn o beth.”

Aberaeron

Dywedodd Elizabeth Evans, cynghorydd Aberaeron, fod nifer o berchnogion ail gartrefi hirdymor yn ei ward “wedi’u gwreiddio” yn ei chymuned.

“Does dim rhaniad yno rhwng pobol leol a pherchnogion ail gartrefi,” meddai.

Trefeurig

Dywed Caryl Roberts, cynghorydd Trefeurig, fod y cynnydd arfaethedig “yn gyfle i ni yma, fel pobol yng Ngheredigion, i sefyll i fyny drosom ein hunain, i fod yn falch o Geredigion, a mynnu bod pobol yn talu am y cyfle i fod yma”.

“Mae’n beth moethus i gael dau gartref lle mae yna bobol sy’n cysgu ar y stryd heb yr un tŷ,” meddai.

Ymgynghoriad

Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus diweddar yng Ngheredigion 1,403 o ymatebion, gyda’r mwyafrif (72%) ddim yn berchen ar eiddo gwag hirdymor yn meddwl ei bod hi’n briodol cynyddu’r premiwm; gyda mwyafrif (85%) yn berchen ar y fath eiddo’n gwrthwynebu cynnydd.

Ar fater ail gartrefi, roedd ychydig dros hanner y rhai nad ydyn nhw’n berchen ar un yn credu bod cynnydd yn briodol, gan ffafrio cynnydd i 100%, neu 150% hyd yn oed, gyda 94% o berchnogion ail gartrefi ddim eisiau cynnydd.

Mae’r ardaloedd sydd â’r gyfradd uchaf o ail gartrefi yn y sir yn rhai arfordirol ar y cyfan – yr uchaf ohonyn nhw yng Ngheinewydd (27.7%), ac wedyn Llangrannog (17.1%), y Borth (14.1%), Pontarfynach (11%), Penbryn (9.6%), Aberaeron (9.1%) ac Aberporth (8.4%).

Mae eiddo gwag hirdymor ar eu huchaf mewn ardaloedd mwy trefol: Aberporth (2.2%), Aberystwyth (1.8), ac Aberteifi a Llandysul (1.5%).