Fe fydd y cyfweliad olaf erioed gyda chyn-bennaeth S4C a BBC Cymru, Geraint Stanley Jones yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sul yn ystod rhaglen sy’n rhoi sylw i drychineb Aberfan.

Bu farw cyn-bennaeth S4C a BBC Cymru fis Awst y llynedd yn 79 oed.

Roedd Geraint Stanley Jones yn newyddiadurwr adeg y trychineb yn 1966, pan gafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd, ac fe fydd yn rhannu ei brofiadau o weithio ar y stori yng Nghwm Taf, ar y rhaglen ‘Cymoedd Roy Noble’.

Bydd y rhaglen hefyd yn clywed gan Geoff Edwards, un o’r ychydig blant i gael ei dynnu o’r ddamchwa’n fyw.

Profiadau

Fel yr eglura Geraint Stanley Jones, trychineb Aberfan oedd stori fawr y dydd ar Hydref 21, 1966.

“Ro’n i yn y swyddfa am 10 o’r gloch y bore yn trafod rhaglen y dydd oedd yn mynd allan amser cinio. Mi ddaeth yr alwad ac mi es i yn syth i Aberfan.

“Be’ dwi’n gofio fwya’ ydy’r tawelwch ofnadwy. Doedd ’na ddim symud, doedd na’m smic yn unman.

“Ro’dd y pwll glo oedd bron yng nghanol y pentre wedi stopio’n llwyr.

“Doeddwn id dim yn gw’bod ble roedd yr ysgol. Ond yn sydyn wrth fynd rownd y gongl, dwi’n gweld y domen ’ma a dim byd ond dynion yn crebachu ar y domen efo rhawiau a phiciau a’u dwylo.”

Effaith ar ei yrfa

Yn ystod y cyfweliad, mae Geraint Stanley Jones yn egluro sut y cafodd y trychineb effaith arno fel newyddiadurwr am weddill ei yrfa.

Cyfaddefa ei fod, yng nghanol bwrlwm o newyddiadurwyr o bedwar ban y byd, wedi cwestiynu a oedd yn ddigon da i fod yn newyddiadurwr ei hun.

“Ro’n i ar y pryd ar fy ffordd i fod yn newyddiadurwr teledu, ond wedi iddo fo ddigwydd (Aberfan), penderfynais i nad o’n i wedi fy nhorri allan i’r math yna o beth. Fedrwn i ddim bod yn ddigon gwrthrychol dwi’n credu.”

Yn wir, bod yn newyddiadurwr oedd y peth olaf ar feddwl Geraint Stanley Jones wrth weld yr hyn oedd yn ei wynebu pan gyrhaeddodd Aberfan.

“Trwy gydol yr wythnos ro’n i eisiau cydio mewn rhaw a gwneud rhywbeth, nid jyst sefyll yn sôn amdano fo.”

Atgofion personol

I Geraint Stanley, y dyn teulu, roedd Hydref 21 yn ddyddiad pwysig am resymau personol, gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1966 hefyd y ganed ei ferch Siwan.

“Am bedwar o’r gloch ar y pnawn Gwener, fe ges i neges fod fy ail blentyn wedi ei geni.

“Dyma fi’n troi i lawr am Gaerdydd yn drewi o lwch y mynydd ac yn cydio yn fy mhlentyn.

“Mae penblwydd Siwan yn fwy na phenblwydd yn dydi… mae’n gofadail.”

Mae modd gwylio’r cyfweliad llawn ar raglen ‘Cymoedd Roy Noble’, S4C, Nos Sul am 7.30