Mae un o warchodfeydd natur mwya’ hudolus Gwynedd yn ailagor ar ôl bod ynghau am gyfnod o bron i ddwy flynedd.

Mae “gwaith sylweddol” wedi digwydd dros y misoedd diwethaf gan Gyngor Gwynedd i wella’r profiad i ymwelwyr â Pharc Dudley, safle hen chwarel ar gyrion Waun-fawr ger Caernarfon.

I ddathlu ailagor y Parc, bydd digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yno, dan ofal Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor, ddydd Sul, Hydref 29 o 1yp.

Bydd yna arbenigwyr lleol yn cynnal gweithgareddau natur, cyfle i ddysgu am y Bartneriaeth Natur Leol, peintio wynebau i blant, a smŵddis am ddim i’r 100 ymwelydd cyntaf.

Mae’r parc, ar safle hen chwarel ithfaen ar lethrau isaf Moel Smytho, yn agos at orsaf reilffordd Waunfawr.

Mae’n dwyn enw’r cwmni Dudley a oedd yn arfer perchen y safle ’nôl yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwelliannau

Mae’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud ym Mharc Dudley, gyda chefnogaeth ariannol o gronfa ‘Coedwigoedd Gwych Gwynedd’, yn cynnwys

  • ailadeiladu ac ailwynebu nifer o’r llwybrau troed er mwyn sicrhau mynediad addas a diogel drwy’r safle
  • creu cylchdaith ar gyfer ymwelwyr mewn cadair olwyn
  • plannu mwy na 500 o goed cynhenid ar y safle mewn cydweithrediad gyda gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor
  • gwaith dehongli ac arwyddion newydd drwy’r safle
  • sefydlu teithiau ‘darganfod natur’ ar gyfer ymwelwyr ifanc
  • gwella mynediad i’r maes parcio

“Mae gwaith sylweddol wedi digwydd dros y misoedd diwethaf i wella’r profiad i bobol sy’n ymweld â gwarchodfa natur Parc Dudley yn Waunfawr,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

“Mae’n wych gweld fod Parc Dudley wedi gweld gwelliannau i’r llwybrau a bod yna gannoedd o goed cynhenid wedi eu plannu yno.

“Bydd y prynhawn o hwyl yn gyfle gwych i fwynhau yn yr awyr agored ac i drafod efo swyddogion Bioamrywiaeth y Cyngor sydd wedi bod ynghlwm â’r gwelliannau diweddar.”


Llythyr cariad i Barc Dudley

Fel un sy’n byw yn y cyffiniau – rydyn ni’n gallu ei gyrraedd wrth ddilyn y Lôn Wen enwog a geir yng ngwaith Kate Roberts – dw i wedi hen arfer ymweld â Pharc Dudley. Teimlad digon digalon oedd gweld arwydd yn datgan bod y lle wedi cau.

Mae’r parc ôl-ddiwydiannol yma yn un o’r llefydd prin, hyd yn oed yn Eryri, lle mae’r byd a’i stŵr yn diflannu’n llwyr unwaith i chi gamu drwy’r gât. Ewch chi ddim ymhell ar un o’r moelydd yn Eryri heb weld rhyw drigfan yn y pellter. Welwch chi ddim byd o Barc Dudley, diolch i’r canopi o goed, dim ond gwledd o natur wrth eich traed. Mae’r lle yn pingo â byd natur. Mae fel camu i fyd y Tylwyth Teg – madarch a ffyngau o bob math, coed llus, nentydd, a grisiau bach pren sydd yn ymestyn yn eu blaenau am byth. A’r pictiwr yn newid gyda’r tymhorau, fesul un.

Rhan fawr o hud y parc yw sylwi ar olion yr hen offer dur y chwarel yn llechu o dan y dail llaith, y mwsogl a’r mieri. Mae yno ogofeydd a hen adfeilion yn sibrwd o’r gorffennol. Cafodd natur lonydd wedi i’r diwydiant trwm ddistewi.

Da yw gweld buddsoddiad yn y lle, a gobeithio y bydd rhagor o bobol yn cael eu denu yno i fwynhau’r hud. Yr unig beth yw fod pawb nawr yn gwybod am gyfrinach Parc Dudley…