Neil McEvoy
Mae cyn dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd wedi lleisio ei anfodlonrwydd dros Gynllun Datblygu Lleol newydd Caerdydd a fydd yn mynd gerbron y cyngor heddiw.

Os caiff y cynllun ei basio yn y cyfarfod cyngor prynhawn yma, fe fydd 45,000 o dai yn cael eu codi yn y brifddinas, rhywbeth sy’n achos pryder, yn ôl y cynghorydd, Neil McEvoy.

Mae’r cynghorydd sy’n arwain grŵp Plaid Cymru ar y cyngor yn dweud y byddai’r miloedd o dai hyn yn cael eu hadeiladu ar safleoedd tir gwyrdd yn y ddinas.

‘Camarwain y cyhoedd’ 

Ond pan feirniadodd hyn mewn pamffled etholiadol ym mis Ebrill 2012, fe gyhuddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ef o rannu ‘celwydd llwyr’.

Ar y pryd, dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd, Mark Drakeford, fod Plaid Cymru yn ‘codi bwganod gwarthus’.

Ond, yn ei ymateb i’r Cynllun Datblygiad Lleol, ym mis Tachwedd 2013, nid yw Mark Drakeford yn diystyru’r posibilrwydd o adeiladu ar dir gwyrdd, yn ôl Neil McEvoy.

Dywed y dylid defnyddio safleoedd tir gwyrdd i adeiladu tai dim ond os nad oes opsiwn arall, ac yn ôl Neil McEvoy, mae wedi ‘camarwain y cyhoedd’.
Yn y cyfarfod cyngor heddiw, bydd Grŵp Plaid Cymru Caerdydd a Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd yn pleidleisio yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol.

Adeiladu ar dir gwyrdd yn ‘anochel’

Mewn datganiad ar ddechrau’r mis, dywedodd Mark Drakeford, a’r AS dros Orllewin Caerdydd, Kevin Brennan, eu bod nhw wedi ffafrio cynnig y Cyngor i gynnwys ‘Gwregys Gwyrdd’ yn y cynllun a fyddai’n gosod darpariaethau i ddiogelu mannau gwyrdd ger y ddinas o ogledd yr M4.

Ond, mynegodd y ddau ‘siom’ fod Arolygydd y cynllun wedi ffafrio’r ddarpariaeth a fyddai’n diogelu mannau gwyrdd y ddinas ‘ar lefel is’.

“Fodd bynnag, rydym yn falch o weld sicrwydd gan yr awdurdod lleol y byddan nhw’n gweithredu’r polisi hyd ei eithaf, ac y byddai diogelwch llawn y polisi Gwregys Gwyrdd, yn cael ei ddarparu yn ymarferol,” meddai’r ddau.

Ond, dydy’r un polisi ddim yn diogelu’r un man gwyrdd yn y ddinas yn llawn a dywedodd y Cyngor y byddai adeiladu ar rai safleoedd gwyrdd i adeiladu nifer y tai sydd eu hangen ar Gaerdydd yn anochel.

“Anhrefn traffig”

Ar faterion eraill y cynllun, dywedodd aelodau Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd, y byddai’r cynllun yn “creu anhrefn traffig a llygredd”.

Ychwanegodd Neil McEvoy y byddai’r cynlluniau yn “cynyddu’r risg o lifogydd ac yn rhoi straen peryglus ar y gwasanaeth iechyd.”

“Mae pawb yn gwybod pa mor wael yw’r traffig ar brif lwybrau’r ddinas yn ystod oriau brig. Byddai ychwanegu miloedd o geir at hyn yn achosi tagfeydd difrifol neu Carmageddon, fel y’i galwyd,” meddai.

“Mae’r cynnig i redeg lôn fysiau dwy ffordd, gyda thraffig ceir un ffordd heb fawr o leoedd parcio ar y ffordd a dim beicio ar hyd Ffordd Plasmawr, Heol Sain Ffagan a Cowbridge Road East yn ddatrysiad chwerthinllyd i’r broblem trafnidiaeth.”

Darpariaeth dros y tai newydd yn y cynllun

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae’r darpariaethau hyn dros ‘seilwaith’ i gefnogi’r tai newydd wedi cael eu cynnwys yn y cynllun.

“Mae’r cynllun yn golygu bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflwyno’n raddol a bod seilwaith (gwasanaethau fel ysgolion a ffyrdd) yn cael eu cynnwys,” meddai llefarydd.

“Bydd y cynllun yn rhoi rheolaeth lawn i’r Cyngor dros ddatblygwyr ac yn sicrhau bod darpariaethau’n cael eu gwneud cyn adeiladu unrhyw ddatblygiad.”