Mae aelodau seneddol Plaid Cymru yng Ngwynedd yn galw o’r newydd am gadw dau safle’r ambiwlans awyr yng Nghaernarfon a’r Trallwng.

Daw hyn ar ôl i ddata ddangos bod cadw’r ddau safle’n cyflymu amseroedd aros y gwasanaeth.

Mae cynnig Plaid Cymru i gynnal y ddwy ganolfan a darparu cerbyd ymateb cyflym wedi’i dderbyn fel un o’r opsiynau gorau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

Mae chwe senario yn cael eu profi gan y cwmni dadansoddi data Optima fel rhan o ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’r data sydd newydd ei ryddhau yn datgelu y byddai’r cynnig dadleuol i uno’r canolfannau ar un safle yng ngogledd ddwyrain Cymru (Rhuddlan) ond yn arwain at dair galwad ychwanegol, ond eto byddai’n lleihau cyflymder yr ymateb cyffredinol.

Mae’r aelodau etholedig wedi bod yn gryf eu gwrthwynebiad i gynlluniau i ganoli’r gwasanaeth brys ar un safle yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae eu galwadau wedi’u cefnogi gan filoedd o bobol o bob rhan o Wynedd a’r canolbarth.

Y ddau opsiwn sy’n cael eu ffafrio gan Optima yw Opsiwn 4, sef cyfuno’r gwasanaeth yn Rhuddlan, newid patrymau shifft, ac ychwanegu cerbyd ymateb cyflym, ac Opsiwn 6, sef cadw canolfannau Caernarfon a’r Trallwng, newid patrymau shifft ac ychwanegu cerbyd ymateb cyflym.

‘Y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth’

Mae pobol leol wedi ymateb yn eu miloedd i’r cynlluniau i gau canolfannau Caernarfon a’r Trallwng, ac mae Liz Saville Roberts (Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd), Hywel Williams (Aelod Seneddol Arfon, Siân Gwenllian (Aelod o’r Senedd dros Arfon) a Mabon ap Gwynfor (Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd.

“Mae gan ardaloedd gwledig Gwynedd a chanolbarth Cymru angen hanfodol am y gwasanaeth achub bywyd hwn,” meddai’r pedwar.

“Mae cyfuniad o gymunedau amaethyddol, gwledigrwydd a ffyrdd gwael yn golygu mai’r Ambiwlans Awyr yw’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau o’r cychwyn cyntaf fod yn rhaid diogelu’r gwasanaeth hwn o fewn cyrraedd amserol ein cymunedau.

“Rydym felly’n croesawu’r ffaith bod ein galwad i gadw’r ddwy ganolfan yng Nghaernarfon a’r Trallwng ar agor a chyflwyno cerbyd ymateb cyflym wedi’i dderbyn fel un o’r opsiynau gorau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.

“Gan mai dim ond tair galwad ychwanegol y flwyddyn y byddai uno’r canolfannau mewn un lleoliad canolog yng ngogledd ddwyrain Cymru yn ei greu, gellir dadlau bod hyn ymhell o fewn y lwfans gwallau ar gyfer data o’r fath.

“Yn ogystal, wrth gadw’r canolfannau yng Nghaernarfon a’r Trallwng, mae’r data’n dangos bod hyd yr ymateb cyffredinol – a restrir fel o amser cychwyn y cloc i amser cyrraedd y cerbyd – wedi’i restru’n gyflymach os cedwir y ddwy ganolfan, a cherbyd ymateb cyflym yn cael ei ychwanegu.

“Mae wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf fod pobol ar draws Gwynedd a chanolbarth Cymru bron yn unfrydol yn eu hargyhoeddiad y dylid cadw canolfannau Caernarfon a’r Trallwng ar agor.

“Mae’r data newydd yma yn awgrymu’n glir bod angen mawr i gadw’r ddwy ganolfan ar agor a bod unrhyw fudd arfaethedig o ganoli’r gwasanaeth yn Rhuddlan yn ymylol a dweud y lleiaf.

“Mae’r data hefyd yn datgelu bod 90% o’r cyhoedd yn ceisio sicrwydd y bydd unrhyw newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth yn diwallu anghenion cleifion i’r un safonau â heddiw.’

“O ystyried rhai o’r cwestiynau ynghylch y data sy’n cael ei ddefnyddio i ategu cynigion yr elusen, nid yw’n afresymol i bobl fod â phryderon difrifol y byddwn yn cael ein gadael â gwasanaeth llawer gwaeth os caiff y canolfannau eu cau.

“Byddwn yn parhau i ddwyn y rhai sy’n gyfrifol am y penderfyniadau yma i gyfrif ac yn apelio ar bawb sy’n rhannu ein pryderon i ymateb i ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus, mynychu unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu ac anfon neges glir bod yn rhaid cadw’r gwasanaeth hwn yn lleol.”

Hanfodol i gymunedau lleol

Dywed Andy O’Regan o Grŵp Ymgyrchu Save Our Bases eu bod nhw’n “annog pawb sy’n gallu i fynd allan i’r cyfarfodydd cyhoeddus agosaf, er mwyn i chi allu gwthio’r neges pa mor hanfodol fydd Opsiwn 6 i gymunedau lleol ar draws Gwynedd a chanolbarth Cymru.”