Digwyddodd y ddamwain ger Ysbyty Singleton, ble roedd Jayne Parker yn gweithio (llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg)
Mae gyrrwr 33 oed o Abertawe wedi’i gael yn ddieuog o ladd dynes drwy yrru’n beryglus.
Cafodd Jayne Parker, 47, oedd yn fam i un ac yn gogyddes yn Ysbyty Singleton yn y ddinas, ei tharo gan gar Kiran Giri wrth groesi Lôn Sgeti ar ei ffordd i’r gwaith ar 10 Rhagfyr 2013.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Giri yn gyrru ar gyflymdra o 50 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr.
Dywedodd arbenigwr wrth y llys y gallai fod wedi stopio cyn taro’r ddynes pe bai’n cadw o fewn y cyflymdra priodol.
Roedd Giri eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal, ond roedd yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Roedd Giri yn ei ddagrau wrth i’r rheithgor ei gael yn ddieuog o’r cyhuddiad mwy difrifol.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 19 Chwefror.