Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun heddiw i sicrhau fod pobol sy’n dioddef o broblemau ar y galon yn derbyn gwasanaethau cardioleg yn eu cymuned ac yn nes at eu cartrefi.

Fe fydd hyn yn arwain at leihad yn yr amserau aros a’r pwysau yn yr ysbytai, yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Fe fydd disgwyl i feddygon teulu sydd â sgiliau arbenigol ddelio â chyflyrau sylfaenol yn ymwneud â’r galon, tra bo cardiolegwyr ymgynghorol yn canolbwyntio ar gleifion sydd â chyflyrau mwy cymhleth.

Mae cynllun peilot eisoes yn cael ei redeg yn Abertawe, lle mae meddygon teulu yn delio a 90% o holl atgyfeiriadau gofal sylfaenol at y gwasanaeth cardioleg.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, mae hyn wedi lleihau’r amserau aros i weld cardiolegydd ymgynghorol o 26 wythnos i tua 12 wythnos.

“Mae wedi arwain at fynediad cyflymach at y gwasanaethau mwyaf priodol ac ymyrraeth i gleifion yn dilyn asesiad,” meddai gan gyfeirio at waith y prosiect peilot yn Abertawe.

£1 miliwn

O ganlyniad, fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi rhan helaeth o’r hwb ariannol gwerth £1m ar gyfer y cynllun hwn mewn gwasanaethau cardioleg cymunedol newydd.

Mae’r £1m sydd wedi’i roi i’r cynllun yn rhan o’r £10m sydd wedi’i ddyrannu i 10 cynllun cyflawni a gyhoeddwyd y llynedd.

Bwriad y cynllun yw sicrhau bod pobol yn cael diagnosis ac asesiadau yn nes at eu cartrefi mewn gofal sylfaenol.

‘Datblygu’r gwasanaeth ymhellach’

“Bydd darparu’r model newydd hwn yn dod â manteision sylweddol i gleifion a staff o ganlyniad i ddiagnosis gwell ac amserau aros byrrach, datblygiad gyrfa a chyfleoedd i weithio gydag arbenigwyr,” meddai Vaughan Gething.

Fe wnaeth Rheolwr Gwasanaethau Rhanbarthol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg groesawu’r cyhoeddiad hefyd.

Fe ddywedodd Tersa Humphreys fod y Gwasanaeth Cardioleg Cymunedol yn Abertawe wedi bod yn “enghraifft ardderchog o weithio mewn partneriaeth rhwng ymarferwyr cyffredinol, ymgynghorwyr ysbytai a ffisiolegwyr cardiaidd i greu llwybr gofal ar y cyd ar gyfer cleifion.

“Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddatblygu’r gwasanaeth ymhellach a rhoi’r dull ar waith trwy bob rhan o’n bwrdd iechyd.”