Port Talbot
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Phort Talbot y prynhawn yma i gyhoeddi manylion  cynllun i sefydlu canolfan ymchwil peirianneg newydd gwerth £7.5 miliwn yn yr ardal.

Fe fydd Carwyn Jones yn ymweld â safle arloesol newydd y Sefydliad Ymchwil Deunyddiau Peirianneg Uwch yn TWI Cymru, ym Mharc Busnes Harbourside, Port Talbot.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi’r trefniadau cyllido, a swm buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y ganolfan ymchwil newydd ar gyfer peirianneg ym Mhort Talbot.

Fe fydd y prosiect yn hwb i ddatblygu’r sector deunyddiau uwch, yn creu swyddi newydd ac yn denu prosiectau ymchwil dan nawdd y diwydiant, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn creu 16 o swyddi.

Mae TWI Cymru yn isadran i TWI Ltd, sydd wedi’i leoli yng Nghaergrawnt.

Tasglu

Daw’r cyhoeddiad wedi i grŵp Tasglu Llywodraeth Cymru  gwrdd am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i drafod ffyrdd i gynorthwyo gweithwyr a busnesau sydd wedi colli eu gwaith yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddiad cwmni dur Tata.

Fe gyhoeddodd Tata y byddai’n cael gwared â mwy na 1,000 o swyddi yng Nghymru, gyda 750 o’r diswyddiadau yn safle Port Talbot.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlygu cynlluniau posibl i ddatblygu parth menter ym Mhort Talbot a fyddai’n sicrhau telerau gwell i gwmnïau fuddsoddi yno.