Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi canmol effaith yr ail Ŵyl Gofalwyr Ifanc sydd wedi’i chynnal yn Llanfair-ym-Muallt.
Bwriad yr ŵyl yw rhoi cyfle i bobol ifanc ymlacio o’u dyletswyddau dyddiol, wrth greu ffrindiau newydd a chael gwybodaeth ar sut i fynd i’r afael â’u heriau dydd i ddydd.
Cafodd ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol, lle bu 330 o ofalwyr ifanc rhwng 12 a 16 oed yn ymgynnull i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau, gan gynnwys sgiliau syrcas, cynhyrchu cerddoriaeth, gweithdai ffotograffiaeth a drymio samba.
“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o ofalwyr ifanc yn dod at ei gilydd i fanteisio ar gyfleoedd i ffwrdd o’u cyfrifoldebau gofalu,” meddai Julie Morgan.
“Mae’r digwyddiad hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth iddyn nhw ac yn caniatáu iddyn nhw ymlacio, rhannu profiadau a chael hwyl.
“Alla i ddim pwysleisio ddigon mor bwysig yw’r hyn maen nhw’n ei wneud o ddydd i ddydd.
“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael amser gwych ac yn gwybod gymaint rydym yn eu gwerthfawrogi.”
Cyfle i ddiolch
Yn ôl Dan Newman o Credu, sy’n trefnu’r ŵyl, mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau gofalwyr ifanc Cymru ac i ddiolch iddyn nhw.
“Hon fydd ein hail Ŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru i ddathlu llwyddiannau gofalwyr ifanc ledled Cymru,” meddai.
“Eleni mae gennym weithgareddau sy’n cynnwys gweithdai dawns, chwaraeon, celf a chrefft, disgo tawel, DJs a pherfformiadau byw, a llawer mwy.
“Mae Credu yn diolch i chi, ofalwyr ifanc Cymru, am eich holl waith caled.
“Rydym yn gobeithio y byddwch wrth eich bodd yn yr ŵyl eleni.”
Codi ymwybyddiaeth
Mae’r ŵyl hefyd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, sy’n anelu i wella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr a’u dealltwriaeth o’u hawliau.
Un gofalwr ifanc aeth i’r digwyddiad yw Ffion Scott, sy’n dweud ei bod hi wedi cyffroi o gael mynd i’r ŵyl yn dilyn yr hwyl gafodd hi y llynedd.
“Cefais y cyfle i gwrdd â gofalwyr ifanc o bob cwr o Gymru wyneb yn wyneb a dod i’w hadnabod a gwneud mwy o ffrindiau,” meddai.
“Gall pawb ymuno â’r gweithgareddau yn yr ŵyl oherwydd mae rhywbeth yno i bawb gael yr amser gorau.”