Neil Hamilton (Euro Realist Newsletter CCA2.0)
Fe allai plaid UKIP wynebu gwrthryfel heddiw os yw hi’n dewis enwau adnabyddus o’r tu allan i Gymru yn ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Mae nifer o gyn-ymgeiswyr wedi rhybuddio y byddan nhw’n anhapus os bydd cyn-ASau Ceidwadol fel Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu dewis ar gyfer y rhestrau rhanbarthol.

Mae Pwyllgor Gwaith Prydeinig y blaid yn cyfarfod heddiw a’r disgwyl yw y byddan nhw’n dewis ymgeiswyr.

Fe fydd y pump ucha’ wedyn yn cael dewis ym mha ranbarth y bydden nhw’n hoffi sefyll gan arwain rhestr y blaid yn y rhanbarth honno.

Cwynion

Roedd yna gwynion pan gyhoeddodd y cyn ASau eu bod nhw’n bwriadu cynnig eu henwau, gyda nifer o ffigurau amlwg yn y blaid Gymreig yn dweud mai pobol leol ddylai gael blaenoriaeth.

Ymgeisydd arall posib sy’n cael ei gwrthwynebu yw Alexandra Phillips, cyn swyddog y wasg i arweinydd UKIP, Nigel Farage.

  • Er fod Neil Hamilton wedi ei eni yn y Coed Duon a’i fagu yn Nyffryn Aman, yn Lloegr y bu’n wleidydd ac fe ddaeth y enwog am sgandal ‘arian am gwestiynau’.
  • Mark Reckless oedd yr AS Ceidwadol a ymddiswyddodd ac ailennill ei sedd yn enw UKIP, cyn colli eto yn Etholiadau Cyffredinol 2015.