Mae ymgyngoriadau cyhoeddus ar ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr wedi’u cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 17).

Mae’r ddau gynllun yn canolbwyntio ar gregyn y brenin a draenogiaid môr, ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y grŵp cyntaf o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig i fod yn destun ymgynghoriad.

Bydd y Cynlluniau’n nodi’r polisïau a’r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd, er mwyn sicrhau bod stociau pysgod yn cael eu hadfer a’u cynnal ar lefelau cynaliadwy.

Bydd pob Cynllun yn nodi’r stoc bysgod, y math o bysgota, yr ardal dan sylw, yr awdurdod sy’n gyfrifol a’r dangosyddion sydd i’w defnyddio ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynllun.

Gyda’i gilydd, bydd creu’r Ddeddf Bysgodfeydd, y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd a’r Cynlluniau hyn yn newid y ffordd y mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli’n sylweddol yn y Deyrnas Unedig.

Y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yw’r cyntaf o 43 i’w cyhoeddi dros y chwe blynedd nesaf yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n cael ei gynnal rhwng Gorffennaf 17 a Hydref 1, yn croesawu barn pawb sydd â diddordeb, a’r bobol hynny y bydd y polisïau arfaethedig yn effeithio arnyn nhw.

Pwysigrwydd a bregusrwydd

“Rwy’n falch o lansio’r ymgyngoriadau hyn ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn cydweithio agos,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.

“Mae cregyn y brenin a draenogiaid môr wedi cael blaenoriaeth oherwydd eu pwysigrwydd i Gymru a’u bregusrwydd posibl.

“Mae’r Cynlluniau hyn yn adlewyrchu natur ddatganoledig pysgodfeydd, tra’n cydnabod manteision gweithio cydgysylltiedig.

“Rydym i gyd eisiau gweld diwydiannau pysgota sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol, yn ogystal â bod yn hyfyw yn economaidd ac yn ffyniannus.

“Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y diwydiant, sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y cam datblygu ac rwy’n edrych ymlaen nawr at glywed barn am y cynigion rydym wedi’u nodi.”