Mae’r cerddor Cian Ciarán, sy’n astudio gyda’r Brifysgol Agored, yn cefnogi staff ym Mhrifysgol Caerdydd wrth iddyn nhw baratoi i streicio.
Bydd yr anghydfod diwydiannol ym mhrifysgolion Cymru’n cynyddu dros yr wythnos nesaf wrth i fyfyrwyr baratoi i raddio (Gorffennaf 17-21).
Er mai dyma’r amser i fyfyrwyr a staff, fel ei gilydd, ddathlu cyflawniadau’r sawl sydd wedi cwblhau eu rhaglenni gradd, mae’n cael ei andwyo eleni gan weithredu diwydiannol parhaus, o ganlyniad i benderfyniad y Prifysgolion i wrthod dychwelyd at y bwrdd negodi.
Y ddadl
Mae staff wedi bod yn rhan o’r Boicot Marcio ac Asesu ers diwedd mis Ebrill mewn ymgais i berswadio’r cyflogwyr i ddychwelyd i’r trafodaethau, ar ôl i aelodau undeb UCU wrthod cynnig annigonol mewn perthynas â phedair piler y frwydr: cyflog, gwaith achlysurol, bylchau cyflog a llwythi gwaith niweidiol.
Mae’r rownd benodol hon o streiciau yng Nghaerdydd yn ganlyniad i benderfyniad rheolwyr y Brifysgol i ddidynnu 50-100% o gyflog staff am gymryd rhan yn y boicot.
Mae gweithwyr yn dadlau bod eu hamser marcio yn cynrychioli sylweddol llai na hanner eu horiau gwaith, ac mai bwriad y didyniadau yw achosi ‘poen’ i weithwyr, yn ôl George Boyne, cyn Rhag Is-ganghellor y Brifysgol ac Is-Ganghellor presennol Prifysgol Aberdeen.
Didyniadau cyflog Prifysgol Caerdydd yw’r rhai llymaf yng Nghymru, ac maen nhw’n cyferbynnu’n llwyr â dulliau llai llym, a mwy cydweithredol, gaiff eu defnyddio gan brifysgolion eraill yng Nghymru fel Bangor ac Aberystwyth.
Parti Graddio Amgen
Yn ymuno â’r frwydr yr wythnos hon fydd Cian Ciarán, arwr roc Cymreig ac aelod o fand y Super Furry Animals, sydd ei hun yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
Bydd yn DJ yn y ‘Parti Graddio Amgen’ yng nghlwb y Moon ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd nos Fawrth (Gorffennaf 18) i godi arian ar gyfer y staff hynny ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y didyniadau cyflog llym.
“Rwy’n falch o fod yn chwarae ym Mharti Graddio Amgen yr UCU ac yn cefnogi gweithredu gan Brifysgolion Caerdydd a thu hwnt,” meddai.
“Fel myfyriwr yn y Brifysgol Agored, rwy’n gwybod pa mor ymroddedig yw ein darlithwyr a’n staff ategol, a pha mor anodd yw pob dim o ran amodau gwaith, bylchau cyflog ac ansicrwydd.
“Mae’n syfrdanol ac yn arswydus braidd bod y prifysgolion, ar ôl blynyddoedd o weithredu diwydiannol gan staff, wedi caniatáu i’r sefyllfa gyrraedd y pen.
“Mae graddio a dilyniant myfyrwyr yn cael eu heffeithio’n arw, gan nad yw’r prifysgolion yn fodlon mynd yn ôl at y bwrdd negodi.
“Mae’n argoeli’n wael iawn eu bod nhw – yn lle ceisio cytundeb cadarnhaol ar gyfer y sector – wedi bod yn torri corneli ac yn anwybyddu rheolau.
“Mae’n ymddangos eu bod yn hapusach yn tanseilio gwerth staff, ac o ganlyniad graddau myfyrwyr, na chydnabod pwysigrwydd canolog eu staff i’r Brifysgol.
“Byddwn yn gofyn i bawb sydd â rhan mewn Addysg Uwch i alw arnynt i barchu eu gweithwyr a chymryd eu gofynion rhesymol o ddifrif.”
Ymysg y perfformwyr eraill fydd rhai sy’n gysylltiedig mewn amrywiol ffyrdd â’r brifysgol, a’r nod yw codi arian at eu cronfa streic ar gyfer staff, a dod â staff a myfyrwyr at ei gilydd mewn undod yn ystod cyfnod anodd i bawb.
‘Dim dewis’
“Dylai hwn fod yn amser o ddathlu pan fydd staff yn ymuno â myfyrwyr i ddathlu eu cyflawniadau rhyfeddol,” meddai Dr Andy Williams, llefarydd ar ran UCU Caerdydd.
“Yn hytrach, mae Prifysgol Caerdydd wedi gadael ein haelodau heb unrhyw ddewis ond i streicio i amddiffyn ein bywoliaeth a gwella ein hamodau gwaith ofnadwy.
“Mae undod Cian Ciaran, yn ogystal â’r gefnogaeth enfawr o fyfyrwyr rydym wedi’i weld, i’w groesawu’n fawr ar adeg dywyll iawn yn hanes addysg uwch Cymru.
“Hoffem wahodd pawb i ymuno â ni i godi ychydig o arian yn ein parti graddio amgen gan gynnwys staff, myfyrwyr, aelodau’r cyhoedd, a hyd yn oed yr Is-Ganghellor (os yw’n ffan Super Furries!).
“Hoffem hefyd wahodd rheolwyr Prifysgol Caerdydd i ailystyried eu didyniadau cyflog llym o 50-100% am gymryd rhan yn y boicot asesu hwn, sydd â mandad cyfreithiol.
“Nhw yw’r rhai llymaf o holl brifysgolion Cymru, a dyw hi dal ddim yn rhy hwyr i wneud cynnig i’n haelodau a dod â’r haf hwn o anhrefn i ben.”