Y Canghellor George Osborne
Mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw’r Ceidwadwyr “ar ochr Cymru” ar ôl i bump o Aelodau Seneddol alw ar Ganghellor Cymru, George Osborne i ail-feddwl ei benderfyniad i roi’r hawl i Gymru gael grym dros y dreth incwm heb refferendwm.

Yn eu llythyr, dywedodd yr ASau fod y newid polisi’n “amharchus” ac yn groes i faniffesto’r Blaid Geidwadol.

Mae’r pump – Byron Davies, Chris Davies, David Davies, James Davies a David Jones – wedi codi’r mater gydag Osborne, ac fe fydd rhagor yn mynegi eu gwrthwynebiad mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Maen nhw’n gofidio y bydd y Blaid Geidwadol yn pleidleisio yn erbyn y mesur.

‘Dros y lle i gyd’

 

Wrth ymateb i wrthwynebiad y pum AS Ceidwadol, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y blaid “dros y lle i gyd” ac nad ydyn nhw “ar ochr Gymru”.

“Mae’r Ceidwadwyr dros y lle i gyd o ran nifer o’r materion sy’n wynebu Cymru heddiw.

“Boed yr Undeb Ewropeaidd, yr economi neu nawr trethu, mae’r Torïaid yn dangos dro ar ôl tro nad ydyn nhw ar ochr Cymru.

“Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn dangos gwir natur y Torïaid pan ddaw i rymuso Cymru.

“Maen nhw’n cefnogi trosglwyddo pwerau sylweddol, gan gynnwys plismona, i ddinasoedd Lloegr heb refferendwm, ac eto maen nhw’n ceisio atal Cymru rhag cael pwerau tros ran fach o’r dreth incwm a allai fod o fudd i economi Cymru.”