Gall ‘cannoedd’ o swyddi gael eu colli ar safleoedd dur Tata yng Nghymru’r wythnos nesaf.

Yn ôl ffynonellau’r BBC, mae’r cyhoeddiad yn debygol o effeithio ar weithwyr ym Mhort Talbot yn bennaf, lle mae 4,000 o staff.

Gall effeithio ar safleoedd eraill hefyd gan fod cwmni Tata yn cyflogi 6,000 o weithwyr ledled Cymru a 17,000 ym Mhrydain.

Doedd neb ar gael o gwmni Tata i wneud sylw a dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am ddweud dim chwaith, nes bod cyhoeddiad swyddogol.

Gwaethygu mae’r argyfwng dur yn y Deyrnas Unedig, yn dilyn miloedd o ddiswyddiadau ym mis Hydref yng ngweithfeydd Tata Steel yn Scunthorpe a’r Alban, gydag ofnau fod rhagor ar y ffordd.

Dur rhad o China a chostau ynni yn y wlad hon sy’n cael y bai am fwrw cysgod du dros y diwydiant, ac mae cynrychiolwyr wedi galw ar lywodraethau gwledydd Prydain i weithredu er mwyn ei achub.