Mae nifer y bobol sy’n ymweld â safleoedd hanesyddol Cymru bron â dychwelyd i’r lefelau fuodd cyn Covid-19.

Rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni, fe wnaeth dros 1.1m o bobol ymweld â safleoedd Cadw lle mae staff yn gweithio.

Roedd hynny gyfwerth â 92% o’r ymweliadau cyn y pandemig.

Yn ôl yr amcangyfrifon, fe wnaeth dros filiwn o bobol ymweld â safleoedd lle nad oes staff yn gweithio yn yr un cyfnod.

Mae incwm Cadw wedi dychwelyd i’r lefelau cyn Covid hefyd, sef £9.6m ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben fis Mawrth.

Castell Conwy yw’r safle mwyaf poblogaidd o hyd, a hwnnw’n croesawu 227,000 o ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf – 5% yn is na’r cyfnod cyn Covid-19.

Bu cynnydd o 49% yn nifer yr ymweliadau i Lys Esgob Dewi Sant yn Nhŷ Ddewi ers Covid, ac mae Cadw yn disgwyl gweld nifer uchel o ymwelwyr yng nghestyll Caernarfon a Chaerffili eleni wrth i waith adeiladu ddod i ben yno.

Mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod nifer yr ymwelwyr dros wyliau’r Pasg eleni yn fwy na’r nifer yn ystod y cyfnod cyfatebol cyn y pandemig, meddai’r corff sy’n gwarchod nifer o safleoedd hanesyddol Cymru.

‘Ar y trywydd iawn’

Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ei bod hi’n falch o weld cynifer o bobol yn ymweld â safleoedd Cadw.

“Ar ôl ychydig o flynyddoedd eithriadol o anodd, rydym ar y trywydd iawn i wneud adferiad llawn a thorri sawl record,” meddai.

“Rhoddwyd trefniadau llywodraethu newydd ar waith ar gyfer Cadw yn 2017 ac yn ddiweddar cyhoeddais fod Roger Lewis wedi’i benodi i arwain grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r rhain er mwyn ceisio sicrhau eu bod hyd yn oed yn fwy cadarn.

“Y bwriad yw galluogi i Cadw barhau i wneud ei waith hanfodol mewn ffordd effeithiol tra’n parhau’n rhan o Lywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i warchod a diogelu safleoedd hanesyddol cyfoethog Cymru er budd cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”