Simon Brooks (Llun Golwg 360)
Mae iaith newydd – Bilingualish – wedi cymryd lle’r iaith Gymraeg, yn ôl ymgyrchydd amlwg, a hynny’n arwain at “farwolaeth rhyfedd yr iaith”.

Ac mae’r academydd Simon Brooks wedi cefnogi protestwyr Gaeleg yn yr Alban sy’n ymgyrchu yn erbyn isdeitlau gorfodol ar eu sianel deledu.

Mewn colofn sydd wedi ei chyhoeddi ar wefan gailidgh-tv yn yr Alban, mae’n dweud mai’r broblem sylfaenol yw fod rhaid i weithgareddau Cymraeg gael eu cyfieithu heb yr un orfodaeth ar weithgareddau Saesneg.

‘Dwy iaith – Bilingualish yw un’

“Mae dwy iaith yn cael eu siarad yng Nghymru heddiw – English a Bilingualish,” meddai Simon Brooks. “Roedd digwyddiadau yng Nghymru’n arfer cael eu cynnal yn Saesneg neu Gymraeg. Bellach maen nhw’n cael eu cynnal yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

Fe gyfeiriodd at achos Cyngor Cymuned Cynwyd sydd wedi cael eu condemnio am fethu â darparu dogfennau Saesneg, tra bod cynghorau cymuned eraill yn methu â darparu dogfennau Cymraeg.

“Mae Bilingualish yn iaith sy’n cael ei gorfodi ar gymuned iaith leiafrifol yn unig,” meddai.

Is-deitlau heb ofyn

Fe gafodd yr ysgrif ei hysgogi gan y syniad o gael isdeitlau heb ofyn ar holl raglenni S4C – yn ôl Simon Brooks mae’n bwysig fod sianeli teledu yn creu lle uniaith ar gyfer eu hieithoedd nhw.

Ac fe feirniadodd y syniad o gael isdeitlau gorfodol ar raglenni S4C – roedd angen i sianeli teledu greu lle uniaith i’w hieithoedd, meddai.

“Fe fyddai’n gwneud difrod na fyddai modd ei ddadwneud i hyder siaradwyr Cymraeg,” meddai. “Yr iaith Gymraeg wedi’i iselhau i fod yn ddim ond atodiad i’r Saesneg.”

Fe fynegodd gefnogaeth i siaradwyr Gaelwg yr Alban sy’n ymgyrchu y erbyn isdeitlau gorfodol ar BBC Alba.