Mae Croes y Brenin Siôr, gafodd ei chyflwyno i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn cael ei harddangos i’r genedl yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar hyn o bryd.

Mae’r Groes, sef y fedal uchaf am ddewrder sy’n cael ei rhoi i sifiliaid yn y Deyrnas Unedig, wrth galon yr arddangosfa ‘Cymru…diolch am y GIG’ yn Sain Ffagan, i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed.

Ymunodd Judith Paget, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, a Dr Ami Jones, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, â Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru, i weld yr arddangosfa.

Bydd yr amgueddfa yn gartref parhaol i’r fedal, gafodd ei chyflwyno i Judith Paget ac Ami Jones gan y Diweddar Frenhines Elizabeth mewn seremoni yng Nghastell Windsor fis Gorffennaf y llynedd.

“Rwy’n falch iawn bod gan y fedal gartref parhaol fel rhan o’r casgliad cenedlaethol yn yr Amgueddfa, lle mae’n atgof balch o ymroddiad gwych gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai Judith Paget.

“Mae’r fedal yn cydnabod gwasanaeth pawb sydd wedi gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers ei sefydlu yn 1948, ymroddiad i ddyletswydd a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig.”

Yn ôl Dr Ami Jones, roedd hi’n “fraint” cael derbyn y fedal ar ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ac mae hi’n “falch” o gael “rhannu’r anrhydedd” gyda chydweithwyr ledled Cymru.

“Rwy’n ymwybodol iawn o arwyddocâd y fedal hon i bawb ohonom yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a ddaeth o hyd i ddewrder eithriadol o’r newydd yn ystod y pandemig i ddarparu gofal rhagorol a chreu datrysiadau ar gyfer y sefyllfa ddigynsail,” meddai.

‘Adrodd hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’

“Rydym yn falch o arddangos Croes y Brenin Siôr ochr yn ochr â gwrthrychau eraill sy’n adrodd hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai Sioned Hughes, Pennaeth Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn perthyn i bobol Cymru ac mae lle arbennig iddo wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

“Mae’r arddangosfa hon yn sicrhau bod stori’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei chynrychioli yn yr amgueddfa yn ystod blwyddyn arwyddocaol.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn dathlu eu pen-blwyddi yn 75 oed eleni, ac felly mae’n addas fod y fedal yn cael ei harddangos yn y galeri ‘Cymru…’ i bawb gael ei gweld.”

  • Bydd yr arddangosfa yn parhau tan Fawrth 5 y flwyddyn nesaf, ac mae gwaith cynllunio ar y gweill i arddangos y fedal ledled Cymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen.