Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi y bydd eu rheolwr dros dro, Alan Curtis yn parhau yn y swydd tan ddiwedd y tymor.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar wefan y clwb heno.

Cafodd Curtis ei benodi dros dro pan gafodd Garry Monk ei ddiswyddo ar Ragfyr 11, ac mae ei berfformiad wedi darbwyllo’r cadeirydd Huw Jenkins fod y tîm mewn dwylo diogel am y tro.

Mae’r Elyrch wedi cael pum pwynt yn y gynghrair tra bu Curtis wrth y llyw, ac maen nhw wedi codi uwchben y safleoedd disgyn.

Mewn datganiad, dywedodd y cadeirydd Huw Jenkins fod y clwb mewn dwylo diogel, wrth iddyn nhw barhau i chwilio am olynydd parhaol i Monk.

Datganiad Huw Jenkins

“Bydd Alan Curtis a’r staff presennol yn parhau tan ddiwedd y tymor.

“Rydym yn gryf o’r farn mai hwn yw’r penderfyniad cywir i Abertawe.

“Bu Alan gyda ni drwy gyfnodau da a drwg ac roedd e’n rhan o’r tîm rheoli a helpodd y clwb i ddiogelu ei statws yn y Gynghrair Bêl-droed dros 12 mlynedd yn ôl.

“Mae e’n llwyr ymwybodol o’r swydd bwysig nesaf sydd o’i flaen wrth geisio darganfod y lefelau perfformiad angenrheidiol a’r ysgogiad i sicrhau ein statws yn yr Uwch Gynghrair – ein prif nod y tymor hwn.

“Rydyn ni’n credu nad oes unrhyw un â mwy o wybodaeth a phrofiad o’r clwb i wneud hynny nag Alan Curtis.

“Mae e wedi gwasanaethu Abertawe mor dda ers dros 40 mlynedd ac fe chwaraeodd e ran hanfodol yn ein llwyddiant diweddar o dan Roberto Martinez, Paulo Sousa, Brendan Rodgers, Michael Laudrup a Garry Monk.

“Mae gyda ni rywun wrth y llyw sy’n llwyr gynrychioli’r cyfan y mae Abertawe’n sefyll amdano; mae’r chwaraewyr yn ei barchu ac fe fydd e’n rhoi sicrwydd ac anogaeth iddyn nhw o ran ein credoau pêl-droed.

“Mae e wedi creu argraff arnon ni wrth wella lefelau perfformiad dros y pum gêm diwethaf. Mae’r chwaraewyr yn amlwg wedi ymateb iddo fe oherwydd rydyn ni wedi gweld gwelliant yn y perfformiadau.”

Diswyddo Garry Monk

Wrth drafod y penderfyniad i ddiswyddo Garry Monk, ychwanegodd Jenkins: “Rwy’n gwybod y bydd rhai pobol yn cwestiynu pam nad oedd gyda ni olynydd yn ei le pan adawodd Garry Monk, ond doedden ni ddim yn disgwyl bod yn y sefyllfa rydyn ni ynddi pan edrychwch chi ar ein safle ni ganol mis Medi.

“Roedden ni wedi gobeithio a disgwyl i bethau newid yn y pen draw. Ond pan na wnaethon nhw, roedden ni’n teimlo bod rhaid i ni weithredu’n gyflym er lles y clwb wrth symud ymlaen.

“Dydy dod o hyd i olynydd ddim wedi bod yn hawdd gan nad oedden ni am wneud penderfyniad yn y tymor byr a fyddai’n andwyol i’r clwb yn y tymor hir. Mae’n sefyllfa unigryw i ni a dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi gwerthfawrogi tan nawr yr hyn yr aeth clybiau eraill yn yr Uwch Gynghrair drwyddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf.”

Y dyfodol

Er bod nifer o enwau wedi’u cysylltu â’r swydd – gan gynnwys Marcelo Bielsa a Jorge Sampaoli, dydy’r clwb ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i’r person cywir yn y tymor hir.

Ychwanegodd Jenkins: “Rydyn ni wedi siarad â nifer o reolwyr posib. Doedd rhai ddim am adael eu clybiau mor hwyr yn y tymor, tra nad oedd eraill am roi eu henwau da yn y fantol drwy ymuno â chlwb yn hanner anghywir y tabl.

“Yn y pen draw, roedden ni’n teimlo mai’r penderfyniad gorau oedd cadw pethau’n fewnol a newid cyn lleied â phosib tan i ni ystyried ymhellach yn yr haf.

“Mae clybiau mwy na ni wedi bod trwy gyfnodau anodd. Dydyn ni ddim wedi cael llawer o gyfnodau anodd yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, ond sut rydyn ni’n dod drwy’r cyfnod anodd hwn sy’n bwysig nawr. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd fel chwaraewyr, staff a chefnogwyr a rhoi popeth fel un.

“Rydyn ni’n sylweddoli pwysigrwydd cynnal ein statws yn yr Uwch Gynghrair gan ei fod wedi ein galluogi ni i ddatblygu dau gae hyfforddi newydd yng Nglandŵr a Fairwood; anelu am statws 1 ar gyfer yr Academi; gwella Stadiwm Liberty a rhoi Abertawe ar fap y byd.

“Mae gennym ni ddigon o waith i’w wneud o hyd ac mae bod yn rhan o’r Uwch Gynghrair yn hanfodol i’r datblygiad parhaus hwnnw.”

Bydd yr Elyrch yn herio Rhydychen oddi cartref yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA ddydd Sul.