Fe gyhoeddwyd fod cwmni tacsi adnabyddus Uber wedi cael trwydded gan y Cyngor i weithredu yng Nghaerdydd.
Mae Uber, sy’n ap poblogaidd ledled y byd, yn galluogi i deithwyr gysylltu gyda gyrwyr tacsi trwy ffonau symudol.
Mae’r ap yn cael ei ddefnyddio mewn sawl dinas ledled Prydain yn cynnwys Llundain, Leeds a Manceinion ac mae Uber yn awyddus i ehangu i Gaerdydd.
Mae’r cwmni eisoes wedi dechrau hysbysebu am staff yn y ddinas.
Recriwtio staff
Dywedodd llefarydd ar ran Uber eu bod yn y broses o recriwtio staff lleol i weinyddu’r gwaith: “Er mwyn lansio mewn dinas newydd, mae Uber angen dau beth. Y cyntaf yw’r drwydded i weithio yn y ddinas a’r ail yw sefydlu tȋm i redeg y busnes.
“Mae Uber wedi derbyn trwydded i weithredu gan Gyngor Caerdydd ond rydym yn parhau i recriwtio am dîm lleol. Pan fydd gennym dîm lleol cryf, fe fyddwn yn edrych ymlaen at gynnig dewis diogel, fforddiadwy a dibynadwy i bobl Caerdydd.”
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod Uber wedi cael trwydded i weithredu yng Nghaerdydd “ar ôl i’r cais gael ei hystyried yn unol â’r ddeddfwriaeth.”
Ond mae undeb y GMB, sy’n cynrychioli cyfran o yrwyr tacsi, wedi mynegi pryder y byddan nhw’n cael eu tanbrisio gan y cwmni.