Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri ar dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn yn datgan “Nid yw Cymru ar Werth”.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar Gyngor Môn i chwarae rhan yn niogelu cymunedau’r ynys trwy gynyddu lefel premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi.
Fe wnaeth y Cyngor benderfynu yn 2019 y byddai’n codi 75% o bremiwm ar dreth y cyngor ar ail dai.
Ers hynny mae’r Llywodraeth wedi newid y rheoliadau a gall Awdurdodau Lleol godi hyd at 300% o bremiwm, a gallan nhw roi mesurau yn eu lle i fynnu caniatâd cynllunio i newid cartref yn ail dŷ.
Bydd Cabinet Cyngor Môn yn cyfarfod ddydd Mawrth (Tachwedd 29) i gymeradwyo adroddiad ar Dreth y Cyngor ar gyfer 2023/24.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r penderfyniad wnaethon nhw yn 2019 i godi 75% o bremiwm treth cyngor ar ail dai.
‘Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon’
“Mae’r rheolau a’r sefyllfa tai wedi newid ers i’r Cyngor wneud y penderfyniad gwreiddiol i godi 75% o bremiwm treth cyngor ar ail,” meddai Osian Jones ar ran yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.
“Mae 2,208 o dai yr ynys yn cael eu hystyried yn ail dai, sy’n 9% o stoc tai y sir, felly mae angen i’r cyngor ddefnyddio’r cyfle wythnos nesaf i roi mesurau mewn lle nawr i leihau’r broblem, trwy godi premiwm treth y cyngor ar gyfer ail dai.
“Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon chwaith – mae wedi bod yn araf i roi canllawiau i gynghorau am eu grymoedd newydd, a does dim sôn o hyd am arian nac adnoddau ar gyfer y gwaith ychwanegol fydd gan gynghorau.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod, er hynny, mai dim ond rhan o’r broblem yw ail dai.
Mae prisiau tai ar gyfartaledd yn £275,635 tra mai £27,124 yw’r cyflog cyfartalog.
Mae’r mudiad yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rheoleiddio’r farchnad tai.
“Tra bod ein cymunedau yn colli stoc tai a phobol leol yn gorfod gadael eu cymunedau dydy’n cynghorau na’r Llywodraeth ddim yn gwneud digon, nac yn gweithredu’n ddigon sydyn,” meddai Osian Jones wedyn.
“Byddwn ni’n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ar Ragfyr 17 i bwyso ar gynghorau ar draws Cymru i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â phroblem ail dai, yn ogystal â galw arnyn nhw i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn fydd yn rheoleiddio’r farchnad tai.”