Does dim digon o gynnydd wedi’i wneud o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru – er gwaethaf cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd Ieuenctid.

Mae adroddiad yn cael ei lansio heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 26) gan Bwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd yr adroddiad Meddyliau Iau o Bwys yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod arbennig o’r Senedd, lle bydd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, yn wynebu cwestiynau gan aelodau o’r Senedd Ieuenctid.

Yn eu plith mae cwestiwn allweddol yr adroddiad, sef pam fod cymorth iechyd meddwl yn parhau i fod yn fater mor fawr i bobol ifanc yng Nghymru, er bod mwy o arian yn cael ei wario ar y broblem?

Problemau parhaus

Mae’r adroddiad yn ddilyniant i’r gwaith a wnaed i ganfod problemau yn y Senedd Ieuenctid flaenorol, a gyhoeddodd yr adroddiad Gadewch i Ni Siarad am Iechyd Meddwl ddwy flynedd yn ôl.

Mae llawer o’r problemau gafodd eu cofnodi bryd hynny’n parhau i fod yr un mor bwysig nawr.

Cafodd y Pwyllgor hefyd ei lywio gan yr ateb mwyaf erioed i ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru, oedd yn cynnwys arolwg a gafodd ei gwblhau gan 3,679 o bobol ifanc.

Doedd canfyddiadau’r ymgynghoriad hwnnw ddim syndod, meddai’r pwyllgor, gan ddangos bod llawer o waith i’w wneud o ran gwella llesiant emosiynol a meddyliol pobol ifanc.

Dangosodd fod 28% o’r ymatebwyr yn cael trafferth gyda theimladau iechyd meddwl bob dydd – yr un canran ag arolwg 2020.

“Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag unrhyw fath arall o iechyd,” meddai Isaac Floyd-Eve, Aelod o’r Senedd Ieuenctid dros Ynys Môn sydd hefyd yn aelod o’r pwyllgor.

“Gall diffyg triniaeth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl arwain at orbryder, anobaith, a cholli rheolaeth,” meddai.

“Ond pan gaiff hyn ei newid er gwell, gallwn fod yn bobol rydyn ni i fod a gweld ystyr i’n bywydau o ddydd i ddydd.”

“Mae gwylio wrth i rai o fy ffrindiau agosaf wingo o dan afael anhwylder meddwl a rhoi’r gorau i geisio cael cymorth oherwydd pwy a ŵyr pa mor hir yw’r rhestrau aros, yn ddim byd llai na thrasiedi.”

Argymhellion:

Mae’r adroddiad yn gwneud 12 argymhelliad sydd wedi’u llunio i wella mynediad at gymorth mewn ysgolion, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a chefnogaeth gan arbenigwyr.

Maent yn cynnwys galwad am ailwampio cefnogaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) ar frys.

Roedd yr ymatebwyr yn yr arolwg yn feirniadol iawn o’r system CAMHS bresennol: dywedodd 44% o’r ymatebwyr fod yn rhaid iddynt aros yn hirach na tharged 28 diwrnod Llywodraeth Cymru am apwyntiadau cyntaf. Dywedodd 13% eu bod wedi aros rhwng 6 a 12 mis.

O’r rheiny gafodd gefnogaeth CAMHS, dywedodd 39% o bobl ifanc bod y gefnogaeth yn wael. Roedd llawer o sylwadau a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad yn dweud eu bod yn teimlo nad oedd gan y system y capasiti i ateb y galw, a’u bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu rhuthro drwy’r broses.

Penwythnos Preswyl

Mae’r Cyfarfod Llawn heddiw, o dan gadeiryddiaeth y Llywydd Elin Jones, yn rhan o benwythnos preswyl Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae’r penwythnos yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgorau eraill y Senedd Ieuenctid, taith o’r Senedd a hyfforddiant i aelodau.

Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i godi materion sy’n bwysig iddyn nhw trwy gyfres o ddatganiadau 90 eiliad.