Mae gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, gymaint o “obsesiwn” â chyflwyno terfyn cyflymder o 20m.y.a. fel ei fod e wedi anghofio ymweld â thrigolion sydd wedi’u heffeithio gan gau Bont Menai, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Bu’n rhaid cau’r bont yn sydyn ym mis Hydref er mwyn cwblhau gwaith trwsio brys, ac fe fydd Lee Waters yn ymweld â’r ardal ar Dachwedd 30.

Mae busnesau Porthaethwy wedi bod yn galw am gefnogaeth frys yn dilyn cau’r bont yn y dref yn sydyn, sy’n cael effaith “ddinistriol” ar rai masnachwyr, gyda rhai yn mynd heb geiniog am wythnosau ar y tro.

Mae pobol yn osgoi’r dref yn sgil yr anghyfleustra i draffig a rhesi hir ar adegau brig ar yr unig lwybr sy’n weddill rhwng Ynys Môn a’r tir mawr, sef Pont Britannia.

‘Diogi’

“Mae gan Lee Waters gymaint o obsesiwn am gosbi modurwyr gyda’i derfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a., tâl tagfeydd a rhewi adeiladu ffyrdd, dydy hi’n fawr o syndod i mi ei bod hi wedi cymryd cyhyd iddo ymweld â thrigolion sydd wedi’u heffeithio gan gau’r bont,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Ond nid dim ond modurwyr sy’n cael eu heffeithio gan ddiogi Waters.

“Bydd methu â chynnal a chadw’r bont dros gyfnod o amser yn cael effaith enfawr ar fusnesau sy’n colli allan ar fasnach hanfodol, sy’n gweld oedi wrth ddosbarthu nwyddau iddyn nhw, a gweithwyr yn mynd yn sownd mewn traffig.

“Ni ddylid fod wedi gadael i’r gwaith ar y bont waethygu dros gyfnod o amser, ac mae angen i’r Llywodraeth Lafur fod yn fwy cyson o lawer wrth gynnal a chadw’r bont pan gaiff y rhesymau am gau’r bont eu datrys.”

‘Cael Ynys Môn i symud eto’

Mae cau’r bont yn cael effaith ar y gogledd i gyd, yn ôl Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn.

“Nid yn unig mae cau [Pont] Menai yn cael effaith ar Ynys Môn, ond mae’n effeithio gogledd Cymru i gyd, yn enwedig o ystyried yr effaith gaiff hyn ar y diwydiant cludo gyda Chaergybi’n borthladd dosbarthu mawr.

“Yn drist iawn, dw i ddim wedi fy synnu fod gweinidog Llafur ym Mae Caerdydd wedi cymryd cyhyd i ymweld, gan ein bod ni’n gweld cyn lleied ohonyn nhw pan ddaw i helpu gogledd Cymru.

“Yn wir, Llafur yn esgeuluso ein rhan ni o Gymru yw’r rheswm pam ein bod ni yn y sefyllfa hon yn y lle cyntaf.

“Gobeithio y bydd hyn bellach yn newid, ac y gallwn ni agor y bont a chael Ynys Môn i symud eto.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.