Mae Apêl Cemo Bronglais wedi llwyddo i basio eu targed a chodi dros £500,000 mewn deng mis.

Cafodd yr apêl i godi arian i drawsnewid yr uned cemotherapi yn yr ysbyty yn Aberystwyth ei lansio ar ddiwrnod olaf Tachwedd y llynedd, gyda’r nod o godi £500,000.

Roedd yr ysbyty eisoes wedi sicrhau £1.7m o’r £2.2m sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn fodern ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ers lansio’r apêl, mae’r gymuned wedi cerdded, beicio, golffio, garddio, cynnal dawns haf, a hyd yn oed cynnal digwyddiad teyrnged Elvis i godi arian.

Dywed Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, eu bod nhw wedi cael eu syfrdanu gan y gefnogaeth leol, a’i fod wedi mynd tu hwnt i’w disgwyliadau.

“Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg yw pa mor angerddol yw pobl dros eu Gwasanaeth Iechyd Gwladol lleol – a pha mor greadigol ydyn nhw o ran codi arian!” meddai.

Yn ogystal â’r arian a gafodd ei godi’n lleol, mae’r apêl wedi derbyn “rhodd sylweddol” gan Sefydliad Moondance, ymddiriedolaeth sy’n cynnig grantiau i drawsnewid cymunedau dros Gymru.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r Apêl hon i drawsnewid yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais ar gyfer y gymuned leol,” meddai Diane Briere de l’Isle Engelhardt, sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Moondance.

‘Gwahaniaeth enfawr’

Wrth ddiolch i bawb fu wrthi’n codi arian, dywed Bettina Vance, Nyrs Glinigol Arbenigol Cemotherapi ym Mronglais, fod cyfraniad pawb yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Ar ran staff yr uned ac Ysbyty Bronglais, hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydym i bawb sydd wedi gwneud yr Apêl yn gymaint o lwyddiant,” meddai.

“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at y camau nesaf a gwireddu ein breuddwyd o ddarparu uned bwrpasol i’n cleifion.”

Anelu at agor dros haf 2024

Yn ôl Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Ceredigion a chyfarwyddwr prosiect ar gyfer datblygu’r uned newydd, bydd yr uned yn darparu profiad gwell i gleifion “mewn cyfleuster modern, addas ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion ar wahanol gamau o ganser, gan gynnig mwy o gysur, preifatrwydd ac urddas”.

“Mae cam dylunio technegol y prosiect eisoes wedi dechrau, ac rydym yn rhagweld y bydd gwaith adeiladu’n dechrau yn haf 2023,” meddai.

“Y targed yw i’r uned cemotherapi newydd fynd yn fyw yn haf 2024.

“Mae’r cyfanswm a godwyd gan Apêl Cemo Bronglais yn sefyll heddiw yn £591,316.

“Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws canolbarth Cymru.

“Gyda’r hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu dros y misoedd nesaf. Felly, bydd rhagori ar y targed gwreiddiol o fudd mawr i’r prosiect.”

Dwy nyrs yn cerdded 85 milltir i godi arian at Apêl Cemo Bronglais

Elin Wyn Owen

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael triniaeth yn agos i’w cartref, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r adrannau yma i fynd”

Apêl i godi £500,000 ar gyfer Uned Gemotherapi pwrpasol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais

Bydd datblygu uned newydd yn costio oddeutu £2.2m, ac mae cyfanswm o bron £1.7m wedi’i gadarnhau eisoes ar gyfer y cynllun