Mae’r Swyddfa Dywydd yn addo mwy o law trwm i dde a gorllewin Cymru dros y Sul, ac mae newydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer yr ardal.

Y siroedd fydd yn cael eu heffeithio gan y cyfnod nesa’ o dywydd garw ydi:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Merthyr Tudful
  • Nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Mae rhybudd melyn mewn grym gan fod llifogydd yn bosib, ac mae mewn grym o 6yh heno tan 3yp, ddydd Sul.