Mewn sgwrs arbennig gan y Selar ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 4), mae panel wedi galw am amrywiaeth ym mhob haen o’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Y DJ, Mirain Iwerydd, oedd yn arwain y sgwrs gyda’r rapiwr, Izzy Morgana, y gwneuthurwr theatr a phodlediwr, Mari Elen Jones, a sylfaenydd y wefan cerddoriaeth annibynnol, Klust.

Canolbwynt y sgwrs oedd amrywiaeth o fewn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg a sut i wella’r amrywiaeth wrth symud ymlaen.

“Mae amrywiaeth yn rhywbeth ni wedi clywed eithaf lot am yn y blynyddoedd diwethaf a ni gyd wedi cael gymaint o sgyrsiau fresh a newydd yn ddiweddar o ran sut mae cael amrywiaeth, cynnal amrywiaeth a beth mae amrywiaeth actually yn golygu i ni fel Cymry,” meddai Mirain wrth agor y sgwrs.

“Rhywbeth sydd wedi dangos yr amrywiaeth sydd yng Nghymru yw trac gan Izzy ac Eädyth, Cymru Ni,” meddai.

Wedi ei rhyddhau ym mis Rhagfyr y llynedd, mae Cymru Ni yn trafod y bobol a’r sefydliadau Cymraeg sydd ddim yn darparu cynrychiolaeth o fewn y diwylliant Cymreig.

Mae’r gân hefyd yn ymateb i’r hiliaeth sy’n dal i fodoli tuag at bobol ddu Cymraeg, meddai Izzy.

‘Angen cwestiynu pwy ydi’r bobol sy’n rheoli pethau’

Rhan allweddol o’r sgwrs oedd y syniad fod angen amrywiaeth ym mhob rhan o’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg, ond yn enwedig o fewn haen uchaf sefydliadau Cymreig.

“Dw i’n meddwl ein bod ni angen cwestiynu pwy ydi’r bobol sy’n rheoli pethau,” meddai Mari.

“Dw i’n meddwl mae angen mwy o gynrychiolaeth yn dod o uchel fyny.

“Dw i’n meddwl mae yna ddiffyg amrywiaeth yn yr ochr reoli yng Nghymru a dw i yn teimlo weithiau does ’na ddim digon o gwestiynu yn cael ei wneud.

Ychwanegodd Izzy, “Fi’n credu mae newidiadau systemig angen digwydd.”

“Mae fe’n rili anodd i ni ddadwneud y systemau sydd wastad wedi bodoli.

“Ond yr unig ffordd allwn ni newid hyn yw trwy roi pobol mewn pŵer sy’n dod o gymunedau gwahanol, so ddim yr un bobol trwy’r amser,” meddai.

“O ran llwyfannau fel Klust, hyn a hyn allwn ni wneud fel llwyfan DIY annibynnol, felly, mae angen herio’r systemau yma sy’n bodoli,” meddai Owain.

‘Yda ni’n teimlo’n ni’n ddigon Cymraeg?’

“Roedd Eädyth a fi wastad yn siarad, fel pobol o’r wlad, o dras gymysg, hoyw – yda ni’n teimlo’n ddigon Cymraeg?,” meddai Izzy, un o’r artistiaid tu ôl i Cymru Ni.

“Mae angen herio’r syniad o bwy ydi’r Cymry Cymraeg.

“Ond na, lot o’r pryd.

“Roedden ni eisiau, gyda’r gân yna, troi’r ffocws at y lleisiau a’r bobol sydd ddim fel arfer yn cael y platfform yna yng Nghymru.

“Mae amrywiaeth yn frwydr araf deg. Fi’n teimlo o fewn y gymuned cerddoriaeth Gymraeg, mae fe dal yn blatfform sy’n cael ei dominyddu gan ddynion, gan bobol gwyn, gan bobol cishet hefyd lot o’r amser.

“Fi’n credu ein bod ni’n gorfod brwydro trwy’r amser i gael y gynrychiolaeth yna,” meddai.

“Fi dal i gredu bod newidiadau angen digwydd ond mae pethau wedi newid yn y ddwy flynedd diwethaf,” meddai.

Gwrthod tokenism

Ond wrth sicrhau cynrychiolaeth, mae’n bwysig nad ydi o’n tokenism, yn ôl y panel.

“Pan fi’n clywed y gair cynrychiolaeth fi wastad yn meddwl be maen nhw’n feddwl o ran cynrychiolaeth?,” meddai Izzy.

“Ydyn nhw’n meddwl jest rhoi rhywun o leiafrif yna er mwyn ticio bocs?

“Dw i’n credu os ydych chi’n cael pobol o gymunedau specific, nhw ddylai gael yr ownership a’r cyfrifoldeb dros be maen nhw’n rhoi mas yna a bod nhw’n cael y platfform i wneud be maen nhw eisiau.

“Fi’n credu bod e hefyd yn ymwneud â chreu perthnasau hirdymor – eich bod chi ddim jest yn mynd mewn i’r gymuned ond eich bod chi’n ffurfio perthnasau go iawn gyda phobol.

“Yn enwedig pan chi’n gweithio gyda chymunedau lleiafrifol, maen nhw wedi arfer gyda tokenism.

Ychwanegodd Mari: “O ran cynrychiolaeth dylai ein bod ni’n adlewyrchu be ydi ein cymunedau ni go iawn a phwy ydi’r bobol ’da ni’n gweld o ddydd i ddydd.

“Mae gan bawb hawl i weld eu hunain yn cael eu cynrychioli.

“Os nad wyt ti’n gallu gweld dy hun, dwyt ti methu anelu i gyrraedd lle penodol chwaith,” meddai Mari.

Rhoi llwyfan i bawb yw rhan annatod o Klust, sef y wefan cerddoriaeth annibynnol a sefydlwyd gan Owain Williams.

“Ro’n i’n teimlo fod yna le i dynnu sylw at y gerddoriaeth sydd ddim, o bosib, yn cael y sylw haeddiannol.

“Ar ddiwedd y dydd, be sy’n bwysig ydi bod chi’n dathlu pob math o wahanol gerddoriaeth.

“Ar y funud mae’r sîn ar ei gryfa’ o ran yr amrywiaeth tu ôl i’r gerddoriaeth,” meddai.

“Fi’n credu bod pethau fel BBC Hansh a Sesh wedi gwneud eithaf lot i hybu pobol sydd ddim yn cael eu cynrychioli gymaint yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg,” meddai Izzy.

Ychwanegodd Owain: “Mae Lŵp S4C wedi gwneud gwaith amazing a mewn ffordd mor naturiol dydi o ddim yn dod drosodd yn tokenistic”.