Mae’r Urdd wedi cyhoeddi pecyn o adnoddau i ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar les pobol ifanc, sy’n “gam i gyfeiriad ychydig yn wahanol”, yn ôl Eluned Morgan.
Bydd y pecyn adnoddau sydd wedi’i greu yn canolbwyntio ar iechyd a lles, hiliaeth, anabledd, ffitrwydd, gwirfoddoli a bwyta’n iach.
Mae’r adnoddau wedi’u creu gan yr Urdd a’u partneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac arbenigwyr yn y maes, fel Dyddgu Hywel o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan gynnig modiwlau dysgu amrywiol i bobol ifanc 14+.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn gweithgareddau iechyd a lles ar-lein adran Chwaraeon yr Urdd yn ystod y pandemig.
Cafodd dros 250 o gyfranogwyr gyfle i ymgysylltu ag unigolion yn y gymuned chwaraeon a dysgu am eu profiadau nhw ac am agweddau amrywiol y maes.
Roedd sesiwn dygnwch meddyliol gyda Lowri Morgan, bwyta’n iach gyda Beca Lyne-Perkins, a rhywiaeth mewn chwaraeon gan y chwaraewyr pêl-droed rhyngwladol Natasha Harding ac Angharad James.
Roedd y sesiynau yn “gyfleodd arbennig i drafod a deall siwrneiau unigolion ym maes Chwaraeon gan rannu barn a thrafod gyda’n pobl ifanc”, meddai’r Urdd mewn datganiad.
Manteisio ar y rhyngrwyd
“Beth ni’n trio gwneud yw ymestyn allan i bobol ifanc ar-lein,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
“Ni’n gwybod bod lot o bobol ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac mae hyn wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
“Mae lot o bobol ifanc yn fwy cyfforddus ar-lein yn aml yn hytrach na chymysgu gyda phobol ym mywyd go iawn.
“Mae hwn yn gam i helpu nhw i gael y tools i helpu nhw i ddatblygu hyder nhw ac i sicrhau eu bod nhw’n gallu ailgysylltu.”
Er bod y pecyn adnoddau ar gael ar-lein, mae hi’n dweud bod digonedd o gyfloedd gan yr Urdd wyneb yn wyneb i’r rhai sydd heb gysylltiad i’r rhyngrwyd.
“Mae 11,000 bobol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yr Urdd yn wythnosol,” meddai.
“Ond mae hwn yn gam i gyfeiriad ychydig yn wahanol sydd wedi datblygu o ganlyniad i Covid.”
‘Taclo hiliaeth yn rhan allweddol’
Un o’r themâu y bydd y pecyn adnoddau yn canolbwyntio arni yw hiliaeth
“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig bod plant ifanc yn deall y ffordd mae eu hagweddau nhw yn effeithio ar bobol eraill,” meddai Eluned Morgan.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n deall ein bod ni’n byw mewn cymdeithas lle mae pob un yn gydradd.
“Wrth gwrs mae taclo hiliaeth yn rhan allweddol o hynny.”