Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Gwener (Mai 27) fod Llywodraeth Cymru am ddileu’r cyfyngiadau Covid-19 sy’n weddill yng Nghymru.

Bydd prif weinidog Cymru’n cynnal cynhadledd i’r wasg am 12 o’r gloch, ar drothwy’r adolygiad nesaf ddydd Llun (Mai 30).

Bydd y Llywodraeth yn parhau i gynghori pobol i gymryd rhai camau sylfaenol i warchod eu hiechyd, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw wedi cael eu brechu, a hunanynysu os byddan nhw’n cael symptomau.

Mae’r sefyllfa wedi parhau i wella dros y tair wythnos ddiwethaf, meddai’r Llywodraeth, sy’n dweud bod nifer y bobol yn yr ysbyty â’r feirws yn parhau i ostwng.

Ond maen nhw’n rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau o hyd yn sgil y feirws ac achosion brys.