Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi amlinellu pecyn cymorth gwerth £380m mae’r Llywodraeth wedi’i ddatblygu.

Mae hyn yn cynnwys y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf a’r taliad Costau Byw.

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol nodi y daw’r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y Deyrnas Unedig eleni ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw.

Mae Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, a Rebecca Evans wedi rhoi manylion y pecyn cymorth mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu i helpu’r bobol fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan alw hefyd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy.

‘Hollol annerbyniol’

“Er gwaethaf galwadau eang ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu mwy o gefnogaeth drwy ddatganiad y gwanwyn i helpu pobol sy’n ei chael yn anodd talu cost gynyddol biliau eu haelwyd, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o ddim ond £27m yng nghyllid adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23,” meddai Jane Hutt.

“Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob aelwyd ar draws Cymru, ac mae’n warthus fod gennym bobol sy’n gorfod wynebu’r penderfyniad torcalonnus i naill ai wresogi eu cartrefi, neu i brynu bwyd.

“Mae hyn yn hollol annerbyniol yn ein cymdeithas fodern.

“Pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’r broblem, byddem yn gweld atebion go iawn ac nid dim ond geiriau gwag am godi’r gwastad, pan ei bod yn glir i bawb mai gostwng y gwastad y maen nhw mewn gwirionedd.

“Er gwaethaf y diffyg cymorth ac arweinyddiaeth gan San Steffan, rydym ni yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu, gyda’r pwerau sydd gennym, i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed.

“Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau, y trydydd sector ac arweinwyr cymunedol i ddatblygu cyfres o becynnau cymorth wedi’u targedu, er mwyn helpu rywfaint ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i ddelio gyda’r argyfwng costau byw.”

‘Pwysau ariannol difrifol’

“Ers mis Tachwedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £380m mewn pecyn cymorth i aelwydydd incwm isel i helpu gyda’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw,” meddai Rebecca Evans.

“Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf lle darparwyd taliad o £200 i aelwydydd cymwys i helpu i dalu cost biliau hanfodol dros gyfnod y gaeaf.

“Bydd cyllid hefyd ar gael i gefnogi cynllun cymorth tanwydd arall ar gyfer y gaeaf.

“Rydyn ni hefyd yn ystyried sut y gall y cynllun gyrraedd mwy o aelwydydd fel bod mwy o bobl yn cael y taliad o £200.

“Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu i ariannu taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo sydd ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy’n derbyn cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor.

“Yn ogystal, mae £25m arall ar gael i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol.

“Maent yn gallu targedu’r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd sy’n cael trafferthion.

“Fel rhan o gyllideb derfynol 2022-23, mae £15m arall ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol fydd yn cefnogi’r rheini sy’n wyneb pwysau ariannol difrifol, gan ymestyn y cymorth ychwanegol tan ddiwedd mis Mawrth 2023.”

‘Yr argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth’

Wrth ymateb i’r argyfwng costau byw, dywedodd Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod “teuluoedd yng Nghymru yn cael eu llethu gan yr argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth, yn ei chael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd a fforddio biliau ynni uchel”.

“Ond mae’r Ceidwadwyr yn pentyrru ar y dioddefaint drwy dorri eu haddewid i beidio â chodi yswiriant gwladol, mewn cam a fydd yn taro ein cymunedau yn galed,” meddai.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn brwydro am fargen deg a fyddai’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobol drwy doriad treth brys.

“Byddai hyn nid yn unig yn helpu teuluoedd, ond hefyd busnesau bach a chyflogwyr mawr yng Nghymru, sy’n rhan hanfodol o’r economi.

“Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr yn parhau i niweidio ein heconomi a gwneud gwir gyflog pobol yn llai.”