Bydd llwybr pererindod newydd ecogyfeillgar yn agor ym mis Mai er mwyn i bobol allu mwynhau harddwch ac eglwysi Penrhyn Gŵyr.
Mae Llwybr Pererindod Gŵyr yn llwybr cerdded a beicio 50 milltir newydd, sy’n cysylltu pob un o’r 17 eglwys hanesyddol ym Mhenrhyn Gŵyr.
Fe fydd y pwyslais ar gerdded a beicio, ynghyd ag anogaeth i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yn yr ardal a rhoi hwb i fusnesau lleol, meddai’r Eglwys yng Nghymru, sy’n gyfrifol am ei ddatblygu.
Ar hyd y llwybr rhwng Penclawdd yn y gogledd-ddwyrain i Landeilo Ferwallt yn y gogledd-orllewin, bydd modd gweld yr arfordir a chefn gwlad, a rhostiroedd a dyffrynnoedd agored.
Y cyflwynydd radio a theledu Adrian Chiles fydd yn gweithredu fel Noddwr y Llwybr Pererindod.
‘Cynnydd mewn diddordeb’
Mae’r llwybr yn “caniatáu i ymwelwyr gyfuno mwynhad amgylchedd naturiol bendigedig â’r cyfle i ddarganfod treftadaeth gyfoethog eglwysi Gŵyr, sydd â’u gwreiddiau yn oes y seintiau Celtaidd, ac sy’n parhau i wasanaethu fel mannau ffydd ac addoli”, meddai’r Eglwys yng Nghymru.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld cynnydd mewn diddordeb mewn llwybrau pererindod ac ysbrydolrwydd, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd, ac mae Ffordd Pererindod Gŵyr yn ychwanegiad cyffrous, a fydd, rydym yn siŵr o ddenu ymwelwyr o gymunedau lleol ac o bell i ffwrdd,” meddai’r Parchedig Justin Davies, ficer de-orllewin Gŵyr.
Mae gwefan Saesneg y llwybr wedi cael ei lansio, ac mae’r fersiwn Gymraeg wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, a bydd hi ar gael erbyn yr haf.
Bydd llyfryn cerdded a beicio, sy’n manylu ar y llwybr, ar gael yn rhad ac am ddim gan yr eglwysi yng Ngŵyr ac o fannau twristaidd o’r Pasg ymlaen hefyd, a bydd yn cynnwys ‘Pasbort Pererinion’ y mae modd ei stampio ymhob eglwys ar y llwybr, gyda phob eglwys â stamp unigryw.
Ynghyd â hynny, bydd pererindod i blant, ‘Helfa Arth’ ar gael hefyd, gyda llyfryn yn dilyn teithiau Arthur yr Arth o amgylch yr eglwysi i chwilio am y mynachod a’r lleianod ‘tedi’ cudd.
Bydd yr eglwysi ar agor i bawb, ac mae paneli gwybodaeth yn cael eu gosod ar eu tir.
Rhwng Mai 10-18, bydd Gŵyl Pererindod Gŵyr yn cael ei chynnal ar y cyd â mis Drysau Agored CADW, gyda theithiau cerdded tywysedig, gwasanaethau ar thema pererindod, a digwyddiadau amrywiol eraill i oedolion a phlant yn yr eglwysi.