Mae deg aelod o gang wedi’u carcharu am gyfanswm o bron i 100 mlynedd am gyflenwi gwerth £5m o heroin.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw fod y grŵp wedi’u harestio fel rhan o gyrchoedd cyfrinachol mwyaf yr heddlu yng Nghymru.
Cafwyd pedwar yn euog o gyflenwi cyffuriau, a phlediodd chwech arall yn euog i chwarae rhan yn y cynllwyn.
Roedd plismyn wedi darganfod tua 40kg o heroin, gwerth £5 miliwn, yn ystod cyrch fel rhan o ymchwiliad Operation Frank, rhwng Hydref 2013 ac Ionawr 2014.
Cafwyd Shazia Ahmed o Gasnewydd, Waseem Ali o Gasnewydd, Umar Arif o Gaerdydd, a Zawed Malik o Fanceinion yn euog o gynllwynio i gyflenwi heroin. Fe gawson nhw eu dedfrydu i gyfnodau rhwng 8 a 10 mlynedd o garchar.
Roedd Imtiaz Ali o Gasnewydd, Mohammad Sajjad o Gaerdydd, Aftab Boota o Gasnewydd, Paul Thomas o Gaerdydd, a Waseem Riaz o Gaerdydd wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o gynllwynio i gyflenwi heroin cyn yr achos llys. Fe gawson nhw ddedfrydau rhwng 7 ac 17 mlynedd. Roedd Tracey Ford o Gaerdydd wedi cyfaddef i gyhuddiad o wyngalchu arian. Cafodd ei charcharu am dair blynedd a 4 mis.