Cyngor Gwynedd
Mae dau aelod o staff o ysgol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion arbennig wedi eu gwahardd o’r gwaith, meddai Cyngor Gwynedd.

Mae ymchwiliadau mewnol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, gyda’r ddau aelod o staff wedi’u gwahardd o Ysgol Pendalar, Caernarfon.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Gallwn gadarnhau fod dau aelod o staff ysgol wedi eu hatal o’r gwaith tra bod ymchwiliadau mewnol yn cael eu cynnal.

“Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor wneud unrhyw sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau.”

Mae Ysgol Pendalar yn ysgol arbennig ddyddiol ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig, rhai yn ddwys ac aml-nam.

Mae ystod oedran y plant rhwng 3 oed i 19 oed.