Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi ei bryder dros gynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri hyd at £1.6 miliwn, sef 19% o gyllid y Gymraeg.

Daeth i’r amlwg y bydd gwariant ar y Gymraeg yn cael ei dorri yn sgil cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ddoe.

Mae’r grŵp pwyso bellach wedi galw am gyfarfod brys gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones i drafod y mater.

Bydd £1.2 miliwn arall yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gymraeg yn y gymuned ond nid yw’n glir eto os bydd hyn yn arian ychwanegol, os ydyw, bydd gwariant ar y Gymraeg yn dal i gael ei dorri gan £400,000, meddai’r mudiad Iaith.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, mae’r toriad “sylweddol” hwn yn tanseilio hyder yn ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg ac mai cynnydd sydd angen ei weld yng ngwariant y Gymraeg, nid gostyngiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy ddweud nad “yw cyllid ynddo’i hun yn mynd i sicrhau ffyniant yr iaith.”

Galw am ‘ymrwymiad’ gan y Llywodraeth

“Ni allwn gyrraedd y nod o Gymru ddwyieithog heb ymrwymiad brwd gan y Llywodraeth,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol.

“Mae angen rhaglenni hyrwyddo eang i hybu defnydd o’r iaith ac i gynyddu siaradwyr. Heb ddiogelu’r elfen sylfaenol hon, daw unrhyw fesur rheolaethol, megis y safonau iaith yn gynyddol ddibwys.

“Byddwn yn pwyso am gyfarfod gyda’r Prif Weinidog cyn gynted â phosib i gael eglurhad o’r sefyllfa ac i bwysleisio pwysigrwydd allweddol y cyllid hwn i dwf y Gymraeg.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am gynnydd yn yr arian i’r Gymraeg i gefnogi siaradwyr newydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau sy’n “allweddol” i’w dyfodol; y cartref, y gymuned, siopau, busnesau a bywyd cymdeithasol.

“Dim modd cyfiawnhau”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi mynegi ei phryder dros y toriadau, gan ddweud ‘nad oes modd eu cyfiawnhau.’

Mae’r mudiad eisoes wedi dweud y dylai Llywodraeth nesaf Cymru wario o leiaf 1% o’r gyllideb ar y Gymraeg, fel sy’n cael ei wneud yng Ngwlad y Basg ar hyn o bryd.

“Gan ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau toriadau i’r cyllidebau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg,” meddai Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae Gwlad y Basg yn gwario sawl gwaith mwy ar eu hiaith nhw, sy’n rhan o’r rheswm ei bod yn gweld cynnydd yn ei defnydd.”

Cododd bryder hefyd dros ddyfodol y Coleg Cymraeg, gan ymateb i’r toriad o £41 miliwn fydd yn dod i’r sector addysg uwch.

Mae’r mudiad yn dweud ei fod wedi derbyn “ymrwymiad clir” gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones i ehangu gwaith y Coleg ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith dydy hi ddim yn glir a fydd y gyllideb yn cyflawni hynny.

‘Ymrwymo i ddiogelu dyfodol yr iaith’

 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ers 2010 mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i thorri’n sylweddol, ac mewn termau real fe welwn fwy o doriadau yn ystod y blynyddoedd nesaf yn sgil Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant.

“Rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd mewn sawl maes er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu fwyaf arnyn nhw, gan wneud cymaint ag y gallwn ar yr un pryd i leihau effeithiau’r toriadau yn ein cyllideb mewn meysydd eraill.

“Rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i ddiogelu dyfodol yr iaith ac rydyn ni wedi cyfyngu ar y gostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm Cyllideb y Gymraeg i 5.9% yn 2016-17, drwy ddyrannu £1.2 miliwn i gefnogi’r Gymraeg yn y Gymuned.

“Rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i bob gweithgarwch sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw cyllid ynddo’i hun yn mynd i sicrhau ffyniant yr iaith, ac fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau partner er mwyn sicrhau sylfaen gadarn i’r iaith yn y dyfodol.”