Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud bod angen gwella gorsaf drenau Caerdydd Canolog yn dilyn pryderon a gafodd eu codi yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd.
Dywed y Pwyllgor Menter a Busnes nad yw’r orsaf yn addas ar gyfer ei phwrpas erbyn hyn fel gorsaf un o brifddinasoedd Ewrop.
Roedd cryn oedi i deithwyr cyn ac ar ôl nifer o gemau Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm, ac fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth bod nifer sylweddol o bobol yn aros yn yr orsaf am hyd at bedair awr am drên ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Cafodd camau eu cymryd yn ystod y gystadleuaeth i sicrhau bod yr amser aros wedi’i dorri yn ei hanner erbyn rownd yr wyth olaf.
Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi cyflwyno’r argymhellion canlynol i wella’r profiad i deithwyr yn ystod digwyddiadau mawr yn y brifddinas.
– Cynnal adolygiad brys o gynlluniau teithio ar gyfer digwyddiadau mawr
– Dysgu gwersi ynghylch rheoli ciwiau a symud teithwyr
– Gwella dulliau cyfathrebu gyda theithwyr
– Cynnwys teithiau bws yn y cynlluniau teithio wrth gefn
– Cydweithio â datblygwyr y Sgwâr Canolog yn ystod y gwaith ail-wampio
– Cynyddu capisiti ar frys
– Gwella’r signalau ar y rheilffordd cyn gynted â phosib
– Ystyried sut y gellir gwella’r rheilffordd ar gyfer teithwyr nad ydyn nhw’n mynd i ddigwyddiadau mawr
– Ystyried cyflwyno teithiau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau mawr
Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor “nad yw Gorsaf Caerdydd Canolog yn diwallu anghenion a disgwyliadau teithwyr”.
“Dydy hi ddim bellach yn addas ar gyfer ei phwrpas i groesawu ymwelwyr â phrifddinas Ewropeaidd fodern.”
Ychwanegodd y dylai’r gwaith o wella’r orsaf fod yn flaenoriaeth.
Wrth gydnabod y gwelliannau a gafodd eu cyflwyno yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, nododd y pwyllgor fod angen ystyried y posibiliadau sydd ar gael cyn i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2017.
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wedi galw ar Network Rail i gynnig ateb tymor byr i wella’r profiad i deithwyr.
Mae cwmni Arriva wedi croesawu’r argymhellion.