Y Gweinidog Addysg Huw Lewis
Mae’r gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd wedi galw am ymchwiliad yn dilyn honiadau  bod coleg preifat yng Nghaerdydd wedi twyllo’r system o gael benthyciadau drwy gynnig i helpu myfyrwyr i ffugio eu cymwysterau.

Fe fu newyddiadurwr y rhaglen Week In Week Out BBC Cymru yn ffilmio’n ddirgel gan esgus bod yn fyfyriwr gael cynnig benthyciad i astudio yng nghangen Caerdydd y West London Vocational Training College drwy ddefnyddio cymwysterau ffug.

Galw am ymchwiliad

Yn dilyn y canfyddiadau, mae Gweinidog Addysg Cymru, Huw Lewis wedi gwahardd unrhyw daliadau i’r coleg oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae’r gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd wedi galw am ymchwiliad i’r ffordd y mae benthyciadau yn cael eu rhoi i fyfyrwyr, gan feirniadu’r llywodraeth am ‘fethu’ â sicrhau bod sefydliadau Addysg Uwch yn cael eu monitro’n iawn.

“Nid dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fethu â sicrhau bod sefydliadau Addysg Uwch yn cael eu gwirio’n iawn,” meddai Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru.

“… mae’n glir bod y llywodraeth Lafur wedi methu gweithredu i ddiogelu’r camddefnydd posib o arian cyhoeddus.”

Y Llywodraeth wedi ‘anwybyddu’ pryderon

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd feirniadu’r llywodraeth am ‘anwybyddu’ pryderon dros y broses reoleiddio.

“Codwyd pryderon yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y broses graffu ar y Ddeddf Addysg Uwch llynedd,” meddai Aled Roberts, AC dros Gogledd Cymru.

“Hefyd, roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Unsain Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi codi pryderon ynglŷn â’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer darparwyr addysg uwch eraill.

“Roedd y Gweinidog (Addysg) wedi dweud wrth y pwyllgor ar y pryd bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth y DU ac fe wnaeth sicrhau bod y system newydd yn barod a bod y rheoliadau angenrheidiol wedi cael eu paratoi.”

Roedd y Ceidwadwyr yn llym eu beirniadaeth hefyd, gyda’r arweinydd yng Nghymru, Andrew R T Davies yn codi’r mater fel un ‘brys’ yn y Siambr ddoe.

“Mae’r Gweinidog yn y gorffennol wedi cyfaddef nad oedd llawer o arolygiaeth wedi digwydd a thra fy mod i’n croesawu’r ffaith bod yr honiadau wedi cael eu pasio i’r heddlu, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau’r cyhoedd ei bod wedi gwneud popeth yn eu gallu i leihau’r perygl o gamddefnydd eto,” meddai.