Daniel Evans
Mae’r actor a’r cyfarwyddwr o Gwm Rhondda, Daniel Evans wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig y Chichester Festival Theatre.
Mae’n olynu Jonathan Church, ac fe fydd yn dechrau ar ei waith haf nesaf.
Bu Evans, sy’n Gymro Cymraeg ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C ar hyd y blynyddoedd, yn Gyfarwyddwr Artistig yn Sheffield ers 2009.
Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Chichester Festival Theatre, Syr William Castell: “Rwy wrth fy modd o gael cadarnhau Daniel Evans fel ein harweinydd artistig nesaf.
‘Profiad helaeth’
“Mae profiad helaeth Daniel fel cyfarwyddwr ac actor yn golygu ei fod yn berson gwych ar gyfer Chichester Festival Theatre.
“Mae’n cael ei edmygu’n helaeth am hybu gwaith clasurol a sioeau cerdd ynghyd â bod yn ymrwymedig i ysgrifennu o’r newydd, ac mae ei angerdd am y theatr yn heintus.
“Rwy’n hapus iawn ei fod e wedi dewis rhannu hynny gyda ni wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol gwych ar gyfer CFT.”
‘Pwerdy theatrig rhyfeddol’
Ychwanegodd Daniel Evans: “Rwy wirioneddol wrth fy modd bod Bwrdd Chichester Festival Theatre wedi gofyn i fod yn Gyfarwyddwr Artistig nesaf arnyn nhw.
“O dan arweiniad Jonathan Church a’r Cyfarwyddwr Gweithredol Alan Finch, mae Chichester wedi datblygu i fod yn bwerdy theatrig rhyfeddol sydd wedi bwydo a phorthi’r gymuned leol yn y De Ddwyrain yn ogystal ag ecoleg y theatr drwy’r DU ac yn rhyngwladol.
“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r tîm yng Ngorllewin Swydd Sussex i ddatblygu’r gwaith hwnnw ymhellach wrth i’r sefydliad esblygu yn y bennod gyffrous nesaf hon yn ei hanes.”
‘Allwn i ddim bod yn hapusach’
Bydd Daniel Evans yn olynu Jonathan Church fis Medi nesaf.
Ychwanegodd Church: “Allwn i ddim bod yn hapusach gyda’r newyddion gwych hwn.
“Mae Daniel yn gyfarwyddwr o’r radd flaenaf gydag angerdd go iawn am y theatr ac rwy’n falch iawn o gael gadael Chichester Festival Theatr mewn dwylo cystal.”
Gyrfa Daniel Evans
Daeth Daniel Evans, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, i amlygrwydd ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn ifanc iawn cyn ennill Gwobr Goffa Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yntau’n 17 oed.
Flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd.
Graddiodd o Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn 1994, ac roedd erbyn hynny’n aelod o’r Royal Shakespeare Company.
Cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Laurence Olivier am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd yn 2000 am ei ran yn yr opera Candide, ac fe enillodd y wobr y flwyddyn ganlynol am ei rôl yn ‘Merrily We Roll Along’.
Fe fu hefyd yn perfformio ar lwyfan y Royal Court Theatre, y Crucible yn Sheffield a’r West End.
Mae Evans hefyd wedi derbyn enwebiadau ar gyfer gwobr Tony.
Ar y teledu, mae Evans wedi ymddangos yn nifer o gyfresi’r BBC, gan gynnwys ‘Great Expectations’ gyda’i gyd-Gymro Ioan Gruffudd.
Sheffield
Cafodd Daniel Evans ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig theatrau Sheffield yn 2009, ac fe ail-agorodd theatr y Crucible yn 2010 yn dilyn gwaith ailwampio gwerth £15 miliwn.
Roedd yn gyfrifol am sawl cynhyrchiad blaenllaw a enillodd wobrau gan gynnwys Cynhyrchiad Sioe Gerdd Gorau (‘This is my Family’), y Ddrama Newydd Orau (‘Bull’), a’r Sioe Deithiol Orau (‘The Full Monty’).
Cafodd gweithiau gwreiddiol theatrau Sheffield gydnabyddiaeth yn 2013 a 2014, pan enillodd y theatrau wobr Theatr Ranbarthol Orau’r Flwyddyn ddwywaith yn olynol – y tro cyntaf i unrhyw theatr gyflawni’r gamp honno.