Mike Phillips
Mae Mike Phillips wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl gyrfa sydd wedi’i weld yn ennill 99 cap dros Gymru a’r Llewod.
Roedd y mewnwr yn rhan allweddol o garfan Cymru enillodd ddwy Gamp Lawn yn 2008 a 2012, yn ogystal â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.
Bu Phillips hefyd yn ddewis cyntaf yn ystod Cwpan y Byd 2011, pan gollodd Cymru yn y rownd derfynol, ond yn y blynyddoedd diwethaf fe gollodd ei grys rhyngwladol i Rhys Webb ac yna Gareth Davies.
‘Golygu popeth’
“Mae hyn yn gyfle i mi ddod a phennod yma fy mywyd i ben,” meddai’r gŵr 33 oed o Fancyfelin mewn datganiad wrth gyhoeddi ei ymddeoliad.
“Mae chwarae dros Gymru wedi bod yn rhan mor fawr o fy mywyd fel oedolyn ac mae hyn yn gyfle i mi ddiolch i bawb o ffrindiau i deulu, hyfforddwyr a rheolwr Undeb Rygbi Cymru, yr holl chwaraewyr gwych dw i wedi cael y fraint o chwarae gydag ac yn eu herbyn ac, wrth gwrs, cefnogwyr gwych Cymru.
“Roedd e wastad yn freuddwyd i mi gael chwarae dros Gymru, roedd e’n golygu popeth i mi ac mae’n deimlad gwych cynrychioli’ch gwlad. I mi roedd e’n fraint.”
Corfforol
Dechreuodd y mewnwr chwe throedfedd tair modfedd ei yrfa gyda’r Scarlets cyn symud i’r Gleision, y Gweilch ac yna draw i Ffrainc gyda Bayonne, ac mae bellach yn cynrychioli Racing Metro yn y Top 14.
Mae’n cael ei adnabod fel un o’r mewnwyr mwyaf yn y byd rygbi, ac mae ei steil corfforol wedi’i wahaniaethu oddi wrth eraill yn yr un safle.
Ond mae Phillips hefyd yn un sydd wedi bod yn y penawdau am y rhesymau anghywir ambell waith yn ystod ei yrfa, ac fe gafodd y sac gan Bayonne am fod yn feddw mewn sesiwn dadansoddi fideo.
Cafodd ei adael allan o garfan Cwpan y Byd gwreiddiol Cymru eleni, cyn cael ei ychwanegu yn dilyn anaf i Rhys Webb.
Petai Phillips wedi dod i’r cae yn unrhyw un o gemau Cymru yn y twrnament fe fyddai wedi ennill ei 96ain cap dros Gymru a’i 100fed cap rhyngwladol.