Mae cwmni hyfforddi Cyfle, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon a Chaerdydd wedi cyhoeddi y bydd y cwmni yn dirwyn i ben heddiw.
Mae Cyfle wedi darparu 30 mlynedd o wasanaeth ers 1986, gan gynnig hyfforddiant ym maes y diwydiannau creadigol a digidol. Mae oddeutu 600 o bobl ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol wedi’u hyfforddi gan y cwmni ar gyrsiau llawn amser a rhan amser.
“Mae’r penderfyniad i gau’r cwmni yn un tu hwnt o anodd,” meddai Gareth Jones, Cadeirydd Cyfle.
Mae Cyfle wedi cyfrannu at ddatblygu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn wreiddiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond wedyn yn ddwyieithog.
Fe fydd pedair swydd yn cael eu colli yng Nghaernarfon a Chaerdydd o ganlyniad i’r penderfyniad.
‘Eithriadol o heriol’
Fe ddywedodd Gareth Jones fod y blynyddoedd diweddar wedi bod yn “eithriadol o heriol i’r cwmni.”
Esboniodd fod amgylchiadau economaidd, technolegol ac addysgol wedi gorfodi ad-drefnu ac ail-gynllunio.
Er hyn, “cafwyd cefnogaeth gref iawn gan gyrff allweddol megis S4C a Creative Skillset Cymru a dylid cydnabod hynny. Yn anffodus, erbyn heddiw, mae anghenion cwmnïau annibynnol ac unigolion o ran hyfforddiant a’r dulliau o ddarparu hynny yn llawer mwy cyfyng a chystadleuol.”
Ond, erbyn hyn “mae angen strategaeth a fframwaith genedlaethol tra gwahanol i’r un a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd gan Cyfle.”
Fe ychwanegodd gan ddweud nad yw ateb y galwadau modern yn “amhosibl”. Fe ddywedodd fod lle i ddatblygu a chydweithio er mwyn “sicrhau twf a swyddi mewn maes sy’n tangyrraedd o ran potensial a’r gallu i drawsnewid rhan sylweddol o economi Cymru.”