Cig oen
Mewn cyfarfod yn y Ffair Aeaf heddiw, mae Cadeirydd Hybu Cig Cymru wedi galw ar archfarchnadoedd i sicrhau “cyflenwad cyson” o gig oen a chig eidion o Gymru ar eu silffoedd yn ystod 2016.
Daw hyn yn dilyn yr argyfwng prisiau diweddar, lle gwelwyd ffermwyr yn trefnu ymgyrchoedd dros yr haf gan wrthod gwerthu eu hŵyn oherwydd y prisiau isel.
Fe esboniodd Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru, fod ffermwyr Cymru tua £7,000 ar eu colled ar gyfartaledd, a bod nifer o resymau yn cyfrannu at hynny.
Fe esboniodd mai un o’r prif resymau yw’r newid yn y gyfradd rhwng y bunt a’r ewro sy’n gwanhau’r allforio ac yn cryfhau mewnforio cig o wledydd eraill.
“Dwy flynedd yn ôl, roedd y bunt werth 1.16 ewro, heddiw mae’n 1.43. Mae pob dafad ar eich fferm werth £60 heddiw, yn hytrach na £72 fel yr oedd adeg y Ffair Aeaf, dwy flynedd yn ôl,” meddai’r Cadeirydd yn y cyfarfod.
Aeth ymlaen i ddweud fod y gyfradd honno’n golygu fod mewnforio cig i Gymru yn rhatach, “a hynny’n bennaf o Seland Newydd.”
Ond, yn ôl Dai Davies, mae arbenigwyr yn honni y “bydd llai o gynhyrchu o Awstralia a Seland Newydd yn 2016 oherwydd effeithiau andwyol ar yr hinsawdd, ac fe allai hynny gael effaith gadarnhaol ar brisiau yng Nghymru, am ychydig.”
‘Diwydiant anghynaladwy’
Er hyn, esboniodd Dai Davies fod problemau’n parhau i wynebu’r sector, gyda’r diwydiant yn “anghynaladwy”.
“Mae ystadegau diweddaraf HCC yn dangos bod y costau cyffredinol yn cynyddu a chanran sylweddol o ffermydd Cymru yn dal methu cwrdd â chostau heb sôn am wneud elw.”
Fe ychwanegodd fod y diwydiant yn wynebu cyfnod o newid, a bod hynny’n “angenrheidiol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd masnachol ac amgylcheddol yn yr hirdymor.”
Fe ddywedodd y bydd HCC yn parhau i hyrwyddo a hwyluso allforion, oherwydd “heb allforion, byddai prisiau cig oen Cymru eleni wedi bod yn sylweddol is.”
Er hyn, fe ddywedodd fod ffermwyr Cymru yn llwyddo i gynhyrchu cig oen a chig eidion “o safon fyd-eang oherwydd gwytnwch, profiad a diwydrwydd ein ffermwyr.”