Mae adfywiad Datblygu, y grŵp arbrofol o orllewin Cymru, yn mynd o nerth i nerth wrth iddyn nhw lansio eu halbym lawn gyntaf ers 1993 y penwythnos hwn.
Porwr Trallod yw casgliad cynhwysfawr cyntaf Datblygu ers y dyddiau pan oedden nhw yn recordio sawl sesiwn I John Peel, gyda’r DJ Radio 1 yn datgan, “this is the band that makes me want to learn the Welsh language.”
Mae David R Edwards, ffrynt man y grŵp chwedlonol yn “awgrymu” bod pobol yn gwrando ar yr albym “o’r dechrau i’r diwedd – nid pigo’r trac hyn neu’r trac arall”.
A dyna fydd yn digwydd yn y Parrot yng Nghaerfyrddin nos yfory, pan fydd yr albym yn cael ei chwarae yn ei chyfanrwydd, ac yna’r DJ Gareth Potter yn holi’r band ac yn rhoi’r cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau hefyd.
Gig o flaen 3,000 o bobol
Mae gan Datblygu, sydd hefyd yn cynnwys Patricia Morgan, gig fawr ym mis Ebrill a fydd yn denu tua 3,000 o bobol.
Mae’r ddeuawd wedi derbyn gwahoddiad i chwarae yng ngŵyl ‘All Tomorrow’s Parties” sy’n cael ei chynnal yng nghanolfan wyliau Pontins ym Mhrestatyn.
Y digrifwr a cholofnydd The Guardian Stewart Lee sy’n trefnu’r ŵyl.
“Mae’n neis ffitio fewn i rywbeth o’r diwedd, achos yn amlwg dydyn ni ddim yn ffitio fewn i’r Sîn Bop Gymraeg,” meddai David R Edwards.
“Er bod ni 100% tu ôl i’r iaith a wastad wedi canu 100% yn yr iaith Gymraeg, mae’r Sîn Bop Gymraeg i fi yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn ddraenen yn fy ystlys.”
Cyfweliad llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.