Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC wedi dweud bod angen i’r BBC “addasu ei gwasanaethau” yn sgil datganoli i sicrhau eu bod yn “adlewyrchu’r tirlun gwleidyddol gwahanol yn llwyr.”
Fe fu Tony Hall a chyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies, yn rhoi tystiolaeth yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd y prynhawn ‘ma.
Yn y papur a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, roedd Tony Hall yn amlinellu cynlluniau’r gorfforaeth “mewn Deyrnas Unedig sy’n prysur newid.”
“Ni ddylai’r BBC, mewn egwyddor, arwain na llusgo y tu ôl i newid cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
Mae’r papur hefyd yn nodi y ‘dylai penderfyniadau’r BBC sy’n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru’, gan ddweud y byddai’n ‘dad-ganoli’ ei chynyrchiadau rhwydwaith y tu allan i Lundain.
Dywedodd y byddai hyn yn helpu i dyfu’r economi greadigol ac yn lledaenu manteision gwariant y Ffi Drwydded.
“Angen mynd ymhellach”
Addawodd y byddai’r gorfforaeth yn darparu hafan-ddalen BBC Newyddion gwahanol ym mhob un o wledydd Prydain, gan “bersonoli” ei gwasanaethau newyddion i “adlewyrchu diddordebau personol ym mhob rhan o’r DU”.
“Ond efallai y bydd angen i ni fynd ymhellach,” ychwanegodd, gan ddweud bod y BBC yn ymgynghori â chynulleidfaoedd ar draws y wlad ynglŷn ag ydyn nhw wedi ‘taro’r cydbwysedd iawn rhwng bwletinau newyddion y DU gyfan a bwletinau’r cenhedloedd ar deledu.’
Mae’r papur hefyd yn nodi bod “achos llawer cryfach erbyn hyn dros ddarparu cydbwysedd gwahanol” ar wasanaethau newyddion y BBC, yn sgil datganoli a refferendwm yr Alban.
Dywedodd hefyd y byddai’n parhau i “weithio’n agos” gyda S4C, wrth ymateb i “heriau cynyddol” y gynulleidfa i “symud yn gyflymach ar-lein i gyrraedd cynulleidfaoedd iau, digidol, gyda chynnwys sy’n berthnasol i’w bywydau.”
Adolygu siarter y BBC
Mae siarter frenhinol y BBC yn dod i ben y flwyddyn nesaf ac yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Yn sgil hyn, mae ariannu’r BBC yn bwnc llosg, gyda rhai yn cyhuddo’r Llywodraeth Geidwadol o ‘ddibrisio’r BBC.’
Mae’r gorfforaeth eisoes wedi cytuno i ariannu toriadau gwario drwy roi trwyddedau teledu am ddim i bobol dros 75 oed.
Bydd yn costio tua £750 miliwn i’r BBC erbyn 2020, sydd bron yn un rhan o bump o’i incwm blynyddol ar hyn o bryd.