Johanna Powell
Mae cwest wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos dynes o Gaerdydd a fu farw tra ar ei gwyliau yn Laos, yn ne ddwyrain Asia.
Fe fu farw Johanna Claire Powell, 37 oed, ym mis Ebrill eleni ar ôl i gwch suddo yn ystod taith ar Afon Mekong, Laos.
Roedd hi’n gweithio fel golygydd lluniau i BBC Cymru, ac wedi teithio i’r wlad gyda’i ffrind Tammy Evans er mwyn ymweld â ffrindiau a oedd yn teithio yno.
Fe glywodd Llys y Crwner, Aberdâr heddiw bod Johanna Powell yn un o 10 o bobol a oedd yn teithio ar y cwch pleser pan aeth i drafferthion gan suddo o fewn ychydig eiliadau.
‘Ysgwyd yn sydyn’
Mewn datganiad, fe ddywedodd ei ffrind Tammy Evans wrth y llys heddiw bod Johanna Powell “yn hanner cysgu gyda’i phen ar y bwrdd pan ddechreuodd y cwch ysgwyd o un ochr i’r llall yn sydyn.”
Fe ddywedodd Tammy Evans ei bod wedi llwyddo i dorri’n rhydd drwy afael mewn darn o’r cwch, ond
“fel oeddwn i’n cael fy llusgo ar hyd yr afon, roeddwn i’n gweiddi “lle mae Johanna?'”
Fe ychwanegodd Stephen Wall, un arall a oedd ar y cwch pleser, fod y rhan fwyaf o bobl yn cysgu ar y cwch y diwrnod hwnnw am eu bod wedi gadael y gwesty yn gynnar.
Fe glywodd y llys gan un arall a oedd ar y cwch, Sinead Mary O’Brien, a ddywedodd iddi nofio am ei bywyd cyn i gwch achub eu cyrraedd.
Deuddydd yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd Llysgenhadaeth Prydain fod corff Johanna Powell wedi’i ganfod ymhellach islaw’r afon.
‘Damweiniol’
Yn Llys y Crwner Aberdâr heddiw, fe ddywedodd y Crwner Andrew Barkley fod archwiliad post-mortem yn dangos bod Johanna Powell wedi boddi.
Fe ychwanegodd iddo dderbyn “gwybodaeth gyfyngedig” gan y swyddogion a oedd yn arwain yr ymchwiliad yng Ngwlad Thai.
“Mae adroddiad dros dro gan heddlu Gwlad Thai yn dweud mai damwain oedd ei marwolaeth,” meddai’r Crwner.
“O’r hyn y gwela’ i o’r post-mortem, does dim arall i ddangos nad boddi oedd achos y farwolaeth,” meddai Andrew Barkley, a chofnodwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.