Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel neithiwr
Mae Rhiannon Hincks, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, yn byw ym Mrwsel ar hyn o bryd ac yn astudio am radd ôl-raddedig mewn technoleg cyfieithu ym Mhrifysgol Leuven. Mae hi hefyd yn gofalu ar ôl plant yn ei hamser rhydd ac yn byw gyda’r teulu yn rhan ganolog o’r ddinas.
“Mae pobl wedi teimlo’n anghyfforddus ers dros wythnos, ac mae’r nerfusrwydd yn parhau,” meddai Rhiannon Hincks wrth golwg360.
Neithiwr, fe wnaeth Heddlu Gwlad Belg arestio 16 o bobl mewn cyrchoedd gwrth-frawychiaeth. Ond mae Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiadau ym Mharis, yn parhau i fod ar ffo.
“Mae e fel bod mewn rhyfel, a dw i ddim wedi gweld dim byd tebyg,” meddai Rhiannon Hincks, 21 oed, gan esbonio fod ysgolion, siopau, bwytai a’r metro ynghau heddiw.
“Bob tro chi’n edrych drwy’r ffenest, mae ’na heddlu yn crwydro strydoedd gyda gynnau.”
“Mae ’na deimlad o ofn, a dw i methu aros i ddod adre i Gymru dros y Nadolig,” meddai.
Rhiannon Hincks
‘Popeth ar chwâl’
Mae Rhiannon Hincks hefyd yn gweithio’n rhan amser gan ofalu ar ôl pedwar o blant i deulu sy’n byw yn agos at ganol y ddinas. Heddiw, mae’r ysgolion ynghau, felly fe fydd hi’n aros yn y cartref i ofalu amdanyn nhw wrth i’r rhieni fynd i’w gwaith.
“Maen nhw’n deulu Ffrengig, a dw i’n meddwl eu bod nhw’n teimlo’n fwy o darged yn dilyn ymosodiadau Paris,” meddai.
Fe ddywedodd ei bod hi’n anodd gwybod sut i ddweud wrth y plant am yr hyn sy’n digwydd.
“Dy’n nhw ddim yn deall, ac maen nhw’n falch o gael amser i ffwrdd o’r ysgol. Ond dyw hyn ddim fel eira, dy’n ni ddim yn gwybod pryd fydd y cyfan drosodd.”
Esboniodd fod y tensiwn wedi’i deimlo’n gryf drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, gyda milwyr yn mynd i’r ysgolion i’w haddysgu am sut i ymateb i ddigwyddiadau brawychol gan guddio o dan ddesgiau.
“Nos Wener, roedd y bws ysgol yn hwyr yn cyrraedd adref, ac roedd y tad yn crio,” meddai Rhiannon Hincks gan ddweud fod “popeth ar chwâl a phawb yn ofni’r gwaethaf.”
Bywyd pob dydd
Roedd y fyfyrwraig i fod i deithio i’r Brifysgol heddiw ar gyfer eu darlithoedd, ond fe benderfynodd aros adref, “am nad yw teithio werth e.”
Fe esboniodd fod mwy o gerbydau a phobl i’w gweld ar y strydoedd heddiw o gymharu â ddoe, wrth i bobl ddychwelyd i’w gwaith.
“Ddoe, roedd popeth ar gau, a phawb yn cadw draw o’r strydoedd.”
Mae’n dod i wybod am y rhybuddion drwy’r we, ond mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â rhannu newyddion answyddogol na chwaith lleoliadau’r heddlu.
“Mae pobl wedi ymateb drwy rannu lluniau ysgafn, ac mae hynny’n eithaf braf. Mae’n bwysig i barchu dymuniadau’r heddlu.”
Mae Brwsel yn parhau i fod ar ei lefel uchaf o wyliadwriaeth, ond mae’r fyfyrwraig yn gobeithio parhau â’i bywyd pob dydd gan ddychwelyd i’w darlithoedd gweddill yr wythnos.
Stori: Megan Lewis