Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud y byddai’r blaid yn “barod i wrando” wrth i Brif Weinidog Prydain, David Cameron gyflwyno’i achos dros gynnal cyrchoedd awyr yn Syria.

Ond dydy’r Blaid ddim wedi’u darbwyllo hyd yma, meddai, mai cynnal cyrchoedd awyr yw’r ateb mwyaf synhwyrol i fygythiad y Wladwriaeth Islamaidd.

Dywedodd Leanne Wood wrth raglen Sunday Politics Wales: “Hyd yma, dydyn ni ddim wedi cael ein darbwyllo ond wrth gwrs, rydyn ni’n barod i wrando ar yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i’w ddweud a byddwn yn gwrando’n astud ar ei gynigion.”

Er eu bod yn barod i wrando, dywedodd Leanne Wood fod angen darbwyllo’r blaid na fyddai Llywodraeth Prydain yn ailadrodd eu camgymeriadau adeg mynd i ryfel yn Irac yn 2003.

“Rwy’n credu y byddai angen [pasio] nifer o brofion cyn i ni gael ein darbwyllo na fydden ni’n gwneud yr un camgymeriadau wnaethon ni nôl yn 2003, pan oedd llywodraeth y DU ynghlwm wrth fynd i mewn i Irac.

“Mae’n anodd iawn trafod yn ddamcaniaethol ond yn amlwg, byddai sêl bendith y Cenhedloedd Unedig yn rhywbeth fyddai’n bwysig i ni.”

Ychwanegodd y byddai’r blaid yn awyddus i weld cynllun sy’n gosod dyddiad terfyn ar ymyrraeth yn Syria, fel nad yw’n mynd yn rhyfel di-derfyn.

“Hoffwn wybod, er enghraifft, fod rhyw fath o ddiffiniad o ran yr hyn fyddai llwyddiant yn ei olygu, a sut olwg fyddai ar gynllun heddwch.

“Dyma’r pethau na chawson nhw sylw cyn mynd i mewn i Irac. Edrychwch ar y llanast a gafodd ei greu o ganlyniad i wneud y camgymeriadau hynny.”

Ceisio cefnogaeth

Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, David Cameron gyhoeddi ei gynlluniau’r wythnos nesaf i gynnal cyrchoedd awyr dros Syria.

Fe fydd Cameron yn cyhoeddi papur sy’n cynnwys saith pwynt ddiwedd yr wythnos, meddai papur newydd y Sunday Times.

Pe bai’r Senedd yn derbyn y cynlluniau, fe allai’r cyrchoedd awyr ddechrau ymhen ychydig wythnosau.

Bydd Cameron yn cyfarfod ag Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ym Mharis ddydd Llun, ddeng niwrnod wedi’r ymosodiadau brawychol gan y Wladwriaeth Islamaidd a laddodd 130 o bobol.

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig eisoes wedi rhoi eu sêl bendith i gymryd camau pellach yn erbyn eithafwyr Islamaidd yn Syria.