Tracey Woodford
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes ym Mhontypridd wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw i roi tystiolaeth.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Christopher May, 50 oed, wedi lladd Tracey Woodford mewn ymosodiad “oedd â chymhelliad rhywiol.”
Ar ôl ei marwolaeth cafodd ei chorff ei dorri’n ddarnau, clywodd y llys.
Roedd plismon wedi dod o hyd i rannau o’i chorff yn fflat May ym Mhontypridd ar 24 Ebrill, ar ôl i’w theulu fynd at yr heddlu i ddweud ei bod ar goll. Cafwyd hyd i’w phen yn ddiweddarach mewn draen.
‘Panig’
Wrth i Christopher May, a oedd yn arfer bod yn gigydd, gael ei groesholi heddiw fe ofynnodd Roger Thomas QC, ar ran yr erlyniad, pam wnaeth e dorri’i chorff yn ddarnau.
Dywedodd Christopher May ei fod wedi mynd i banig ac eisiau cael gwared a’i chorff.
Fe ddywedodd Christopher May wrth y llys heddiw ei fod wedi bod yn yfed yn gyson yn nhafarn y Skinny Dog ym Mhontypridd ers dwy neu dair blynedd.
Yn y fan honno y gwnaeth gwrdd â Tracey Woodford, 47 oed.
Mae’r erlyniad yn honni bod Tracey Woodford wedi cael ei thagu i farwolaeth rywbryd rhwng 21 a 22 Ebrill.
Mae Christopher May yn gwadu ei llofruddio ac mae’r achos yn parhau.