Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn annog meddygon iau Lloegr i “ddod i hyfforddi, byw a gweithio yng Nghymru” yn dilyn cynlluniau i ostwng cyflogau meddygon iau yno, a fydd yn ôl rhai, yn doriad o 30%.

Fel rhan o’r ymgyrch mae’r Mark Drakeford wedi cyhoeddi neges fideo sy’n egluro pam y dylai meddygon iau Lloegr ddod i Gymru.

Yn y fideo, mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud bod ‘egwyddorion sylfaenol’ y Gwasanaeth Iechyd yn parhau yma yng Nghymru ac mai dyma yw ei ‘gartref’ ar ôl i Aneurin Bevan ei sefydlu yn 1948.

“Ganwyd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Aneurin Bevan, ac mae’r gwasanaeth yn ffrwyth y ddelfryd y dylai gofal iechyd da fod ar gael i bawb, waeth beth yw eu sefyllfa ariannol,” meddai Mark Drakeford yn y fideo.

“Dewch i Gymru”

“Pan gafodd ei lansio ar 5 Gorffennaf 1948, roedd yn seiliedig ar dair egwyddor graidd: ei fod yn diwallu anghenion pawb; ei fod am ddim yn y man lle mae’n cael ei ddarparu; a’i fod yn seiliedig ar angen clinigol, ac nid ar y gallu i dalu.

“Mae’r tair egwyddor hyn wedi arwain y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth iechyd dros 60 mlynedd a rhagor, ac maen nhw’n parhau’n greiddiol iddo yma yng Nghymru.

“Mae gan Gymru draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth gyda’n staff a’u cynrychiolwyr. Bydd meddygon o unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig sy’n fodlon dod i weithio i Gymru yn cael croeso cynnes iawn.

“Dewch i Gymru, a bydd eich dyfodol chi yn rhan o’n dyfodol ni.”

Boddhad doctoriaid ar i fyny

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol i Feddygon 2015 y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a gafodd gyfradd ymateb o 99%, mae boddhad cyffredinol y meddygon sy’n hyfforddi yng Nghymru yn 83%, sy’n uwch na’r cyfraddau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Er hyn, mae sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cael cryn dipyn o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn Mesurau Arbennig yn dilyn sawl adroddiad damniol ar safon y gofal yno.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynllun i hyfforddi 1,000 o ddoctoriaid ychwanegol os byddan nhw’n dod i rym yn y Cynulliad wedi mis Mai 2016.