Roedd yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis neithiwr yn “wrthun i ddynoliaeth”, meddai Cyngor Mwslimiaid Cymru mewn datganiad y prynhawn yma. Bu farw 127 o bobol o ganlyniad i ffrwydriadau mewn hanner dwsin o fannau gwahanol ym mhrifddinas Ffrainc.

“Mae’r ymosodiadau diweddara’ ym Mharis yn wrthun i ddynoliaeth,” meddai Cyngor Mwslimiaid Cymru. “Rydyn ni’n galaru’r marolaethau, ac yn cynnig ein meddyliau a’n gweddïau i’r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

“Mae’r marwolaethau ym Mharis yn dilyn ymosodiadau hefyd yn Beirut ac yn Baghdad,” meddai’r datganiad wedyn. “Mae’r grwp sy’n ei alw ei hun y ‘Wladwriaeth Islamaidd’ wedi hawlio cyfrifoldeb am y trais, ond does yna ddim byd Islamaidd am bobol fel hyn, ac mae’u gweithredoedd yn rhai dieflig.

“Mae Mwslimiaid ledled y byd, ac yma yng Nghymru, yn gwrthod bwriadau gwleidyddol y grwp yma yn Syria ac Irac, ac rydan ni’n ymwrthod â’u hymdrechion i gyfiawnhau eu trais trwy ddefnyddio ffydd.

“Mae Cyngor Mwslimiaid Cymru yn estyn llaw cyfeillgarwch i bawb sy’n diodde’ yn Ffrainc. Fe fydd Paris, Beirut a Baghdad yn ein gweddïau.”