Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio pumed unigolyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth yn ardal Llanelli.
Mewn datganiad, mae’r llu wedi cadarnhau heddiw fod dyn wedi’i ddwyn i’r ddalfa nos Wener fel rhan o’r ymchwiliad i farwolaeth dyn yn Felinfoel.
Fe ddaeth plismyn o hyd i gorff dyn – o Wlad Pwyl, yn ôl adroddiadau – yn ardal Pleasant View ar Dachwedd 11.
Mae tri dyn ac un ddynes eisoes yn y ddalfa.